Pennod newydd i Fenter Iaith Gwynedd
Dyddiad: 27/03/2025
Mae un o’r prosiectau sy’n allweddol er mwyn cynyddu defnydd y Gymraeg yng Ngwynedd bellach wedi dwyn ffrwyth wrth i fenter iaith annibynnol a chynaliadwy sy’n cael ei harwain a’i pherchnogi gan y gymuned gael ei sefydlu.
O 1 Ebrill 2025, bydd Menter Iaith Gwynedd yn dod yn endid hollol annibynnol o’r awdurdod lleol ac yn cychwyn pennod newydd diolch i ymrwymiad o fuddsoddiad ariannol o dros £200,000 gan Gyngor Gwynedd yn 2021 sydd wedi cefnogi’r prosiect.
Bydd y datblygiad hwn yn caniatáu i’r Fenter fod yn agosach i’r cymunedau y mae’n eu cefnogi, a sicrhau ei bod mewn gwell sefyllfa i barhau i ychwanegu at y bwrlwm ieithyddol a diwylliannol yng Ngwynedd. Bwriedir i’r Fenter adeiladu ar y perthnasau sydd eisoes wedi’u gwreiddio o fewn cymunedau ar hyd a lled y sir, parhau i gefnogi unigolion a chymdeithasau i ddefnyddio mwy o Gymraeg, a sicrhau ffordd newydd effeithiol o weithio sy’n debyg i fwyafrif o Fentrau Iaith eraill Cymru.
Dywedodd Iwan Hywel, Pen Swyddog Menter Iaith Gwynedd:
“Ers sefydlu Hunaniaith fel rhan o Gyngor Gwynedd yn 2009, mae’r Fenter Iaith wedi profi sawl llwyddiant, un o’r rhai mwyaf nodedig oedd sefydlu Siarter Iaith Ysgolion Cynradd Gwynedd. Mae’r cynllun bellach wedi ei fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru ac mae ysgolion ar draws Cymru yn dilyn esiampl Gwynedd wrth ddefnyddio’r siarter yn ddyddiol.
“Bydd y Fenter ar ei newydd wedd yn parhau gyda’r gwaith da, ac yn mynd ymlaen i gydweithio a thargedu cynulleidfaoedd newydd o fewn ein cymunedau er mwyn sicrhau bod cyfle i bawb – o blant a theuluoedd, i siaradwyr newydd, a busnesau a mudiadau – i fedru defnyddio mwy o Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.”
Meddai’r Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:
“Mae hybu defnydd y Gymraeg gan drigolion Gwynedd yn flaenoriaeth i’r Cyngor ac mae sefydlu menter iaith annibynnol, gynaliadwy yn allweddol i’r nod hwn.
“Rydym yn hynod falch o’r gwaith arbennig sydd wedi’i wneud gan y Fenter Iaith dros y blynyddoedd o dan adain y Cyngor, ac mae’r amser wedi dod i ni adeiladu ar ei chryfderau a datblygu wrth edrych i’r dyfodol. Bydd y Gymraeg a’n cymunedau yn elwa o gael Menter Iaith sy’n cael ei harwain a’i pherchnogi gan ein cymunedau.
“Dwi’n edrych ymlaen at weld y Fenter Iaith ar ei newydd wedd yn datblygu a thyfu ac yn helpu i gynyddu defnydd y Gymraeg ymhob cwr o’r sir.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Llio Elenid Owen, yr Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol sydd â chyfrifoldeb am faterion Iaith y Cyngor:
“Hoffwn ddymuno’n dda i’r Tîm gweithgar o’r Fenter Iaith a diolch iddynt wrth iddynt gychwyn ar y cyfnod newydd nodedig hwn. Mae gwreiddio’r fenter yn y gymuned ac ennyn perchnogaeth gan ein cymunedau yn gam pwysig ymlaen.
“Bydd gweithredu yn y ffordd hon yn gyfle i ddenu buddsoddiadau ariannol o ffynonellau amrywiol, bod yn fwy creadigol a sicrhau bod modd cynllunio ymlaen yn well heb fod yn gaeth i grantiau byrdymor Llywodraeth Cymru. Rwyf yn edrych ymlaen at gydweithio pellach er mwyn gweld y Gymraeg yn parhau i ffynnu yn ein cymunedau.”
Am ragor o wybodaeth am waith y Fenter Iaith ewch i’r wefan www.menteriaithgwynedd.cymru neu dilynwch y Fenter ar ei ffrydiau cyfryngau cymdeithasol ar Facebook a X.