Pennod newydd i wasanaethau anabledd dysgu ym Meirionnydd
Dyddiad: 06/03/2025
Bydd oedolion ag anableddau dysgu yn ardal Meirionnydd yn cael cyfleoedd hyfforddiant a chefnogaeth mewn canolfan newydd sbon, fydd hefyd yn adnodd i’r gymuned ehangach, diolch i fuddsoddiad o bron i £4 miliwn.
Bydd gwaith gan Gyngor Gwynedd i ddatblygu hwb newydd i oedolion ag anableddau dysgu yn dechrau ar safle Canolfan Dolfeurig yn Nolgellau dros yr wythnosau nesaf.
Pan bydd yr hwb yn agor ei drysau flwyddyn nesaf i groesawu’r unigolion, bydd yn darparu cyfleoedd newydd ac arloesol sy’n cyd-fynd ag ymarfer da yn y maes anableddau dysgu. Bydd yr hwb yn adeilad hygyrch ac wedi ei ddylunio gyda anghenion y unigolion mewn golwg, fydd yn cwrdd ag gofynion lleol heddiw ac i’r dyfodol.
Bydd yr hwb newydd yn rhoi cyfleodd hyfforddiant er mwyn cefnogi pobl gydag anableddau dysgu gymryd eu camau cyntaf mewn i’r byd gwaith ac annog cydweithio ac integreiddio gyda’r gymuned leol.
Bydd y prosiect gwerth £3.9 miliwn yn cynnwys:
- gweithdy coed,
- ystafell sensori,
- cegin hyfforddi,
- gweithdy crefft,
- ystafell gyda gwely dŵr therapiwtig,
- gofod clinigol i hyrwyddo cydweithio gyda’r gwasanaeth iechyd,
- gofod siop fach i werthu cardiau/crefftau a chynnyrch yr unigolion sy’n mynychu’r hwb,
- gardd sensori,
- golchfa ceir
- toiled/ystafell ymolchi hygyrch.
Bydd yr adeilad newydd hefyd yn darparu adnoddau cymunedol, gan gynnwys caffi gyda theras i eistedd allan, ystafelloedd cyfarfod, a neuadd/gofod ar gyfer gweithgareddau cymunedol.
Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant ar Gyngor Gwynedd:
“Rwy’n falch iawn o weld buddsoddiad sylweddol ar gynllun sydd mor bwysig i’r ardal, ac yn edrych ymlaen at weld y ganolfan yn ail-agor gyda chyfleusterau newydd.
“Mae’r hen Ganolfan Dolfeurig wedi bod yn gartref i wasanaethau anabledd dysgu’r Cyngor ers degawdau, ac yn agos at galon nifer fawr o bobl. Ond yn anffodus, mae cyflwr yr adeilad wedi dirywio a nid yw’n addas i’r pwrpas bellach.
“Mae cynnal hybiau fel hyn yn ein cymunedau yn rhan bwysig iawn o ethos y gwasanaeth anableddau dysgu, ac yn ffordd newydd ac addas o integreiddio gwasanaethau gyda’r gymuned ehangach gan greu cysylltiadau a pherthnasoedd gwerthfawr gyda thrigolion a sefydliadau.
“Rydw i’n mawr obeithio y bydd cael hwb fodern ac addas hefyd yn creu cyfleoedd newydd i gydweithio’n agos â’r gymuned leol a denu aelodau’r cyhoedd i mewn trwy’r drysau, pe bai hynny i’r caffi am baned a chacen neu i logi ystafell ar gyfer cyfarfod cymunedol.”
Mae’r prosiect yn cael ei arwain a’i ariannu yn rhannol gan Cyngor Gwynedd, gyda nawdd arian grant Llywodraeth Cymru trwy’r Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol (IRCF) a’r Gronfa Integredig (ICF).
Mae’r gwaith cychwynnol ar y safle eisoes wedi dechrau ac mae trefniadau i’r unigolion presennol gael cefnogaeth ar safleoedd amgen o fewn y gymuned leol tra fo’r gwaith yn mynd rhagddo.