Penodi Cadeirydd Bwrdd Rhaglen Ymateb i Droseddau

Dyddiad: 11/03/2025
Mae cyn-Gomisiynydd Plant Cymru wedi ei phenodi i gadeirio’r Bwrdd Rhaglen fydd yn cadw llygaid fanwl ar y camau gweithredu yng Nghynllun Ymateb Cyngor Gwynedd i droseddu Neil Foden.

Un o gonglfeini ymateb Cyngor Gwynedd i’r troseddau erchyll hyn yw i sefydlu Bwrdd Rhaglen penodol i gydlynu a sicrhau cynnydd priodol ac amserol i gamau a gweithdrefnau ymatebol. Mae’r gwaith yma wedi cymryd cam sylweddol ymlaen wrth i’r Athro Sally Holland, fu’n Gomisiynydd Plant Cymru rhwng 2015 a 2022, gytuno i gadeirio’r Bwrdd.

Mae Sally Holland o gefndir gwaith cymdeithasol ac yn uchel ei pharch yn y maes. Cyn ymgymryd â rôl Comisiynydd Plant Cymru bu’n gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) ac mae’n parhau i fod yn gyfarwyddwr cynorthwyol y Ganolfan. Mae Sally Holland hefyd yn ysgolhaig – mae’n Athro ym Mhrifysgol Caerdydd ble mae hi’n dysgu astudiaethau Gwaith Cymdeithasol a hi yw Cyfarwyddwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn yr ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.

Dywedodd Sally Holland: “Mae’n allweddol fod y dioddefwyr a’r goroeswyr a’r gymuned ehangach yn hyderus fod y Cyngor yn cymryd camau pendant i ddysgu o amgylchiadau’r achos gofidus hwn.

“Mae Cyngor Gwynedd wedi gosod allan ei gynllun a bydd pobl Gwynedd yn disgwyl gweld canlyniadau yn dilyn hyn.

“Bydd gan y Bwrdd Rhaglen rôl bwysig wrth graffu, herio a chynghori Cyngor Gwynedd wrth iddo weithredu ei gynllun ymateb, ac fel Cadeirydd byddaf yn ymdrechu i sicrhau bod y cynllun yn cadw momentwm ac yn cael effaith bendant.”

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Rydym yn parhau i fod wedi cael ein hysgwyd gan y troseddau erchyll a gyflawnwyd ac mae ein meddyliau yn parhau i fod gyda’r dioddefwyr a phawb sydd wedi eu heffeithio.

“Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth posib i sicrhau na fydd neb yn dioddef yn yr un modd fyth eto a bydd y Bwrdd Rhaglen yn greiddiol i sicrhau fod gwersi yn cael eu dysgu a’n bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu ein plant a’n pobl ifanc.

“Mae’n newyddion da fod yr Athro Sally Holland wedi cytuno i gadeirio ein Bwrdd Rhaglen. Rydw i’n hynod falch ein bod wedi gallu apwyntio unigolyn sydd â’r hygrededd uchaf posib a sydd wedi bod yn lais cryf dros hawliau a diogelu plant yng Nghymru ers blynyddoedd lawer. Mae hi’n brofiadol iawn yn y maes a bydd yn llais annibynnol a chadarn.”

Bydd y Bwrdd yn gwirio a herio cynnydd pob ffrwd waith yn y Cynllun Ymateb ac yn sicrhau fod yr holl faterion unigol yn cael eu cyflawni’n drwyadl a phriodol. Bydd yn adrodd yn rheolaidd i gyfarfodydd Cabinet Cyngor Gwynedd.

Cynhelir y gwaith hwn ochr-yn-ochr â’r Adolygiad Ymarfer Plant statudol, sy’n cael ei gynnal gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru.