Newidiadau i amserlenni bws yn ardal Bangor a Dyffryn Ogwen

Dyddiad: 19/06/2024
Bydd yna newidiadau i wasanaethau bysiau cyhoeddus yn ardaloedd Bangor a Dyffryn Ogwen o 30 Mehefin ymlaen.

 

Daw’r newid yn dilyn adolygiad gan dîm cludiant integredig Cyngor Gwynedd sydd wedi bod yn cydweithio’n agos gyda Thrafnidiaeth Cymru.

 

Mae’n dilyn adolygiadau tebyg yn Arfon a Meirionnydd, gyda’r nod o wneud y mwyaf o’r adnoddau sydd ar gael i gynnig gwasanaethau sy’n cyfarch anghenion cymaint â phosib o ddefnyddwyr bysiau. .

 

Mae’r gwaith adolygu sydd wedi ei gynnal wedi bod ar sail ardaloedd, gyda gwasanaethau ar eu newydd wedd yn weithredol ar rwydwaith Sherpa Eryri ac yn ardaloedd Dyffryn Nantlle, Caernarfon a Meirionnydd lle mae nifer teithwyr wedi cynyddu.

 

Y newidiadau i ardal Bangor a Dyffryn Ogwen felly ydi’r wedd diweddaraf. Dros y blynyddoedd, mae yna alwadau clir wedi bod gan drigolion yr ardal a oedd am weld gwell cyswllt gydag ardal siopa Ffordd Caernarfon ym Mangor.

 

Bydd gwasanaeth newydd y G8 yn gweithredu rhwng Bethesda – Tregarth – Bangor – Tesco o 30 Mehefin 2024 ymlaen. Bydd yn disodli’r gwasanaeth 67 blaenorol. 

 

Yn ogystal, bydd gwasanaeth G9 yn disodli’r 78 ar drywydd Maesgeirchen – Bangor, a fydd hefyd yn ymestyn hyd at Tesco Extra ar Ffordd Caernarfon ym Mangor. Bydd y G8 a’r G9 yn cael eu gweithredu gan Arriva o dan gytundeb i Gyngor Gwynedd.

 

Mae addasiad hefyd i drywydd gwasanaeth y G10 Mynydd Llandygai – Bangor – Tesco Extra a fydd yn teithio heibio prif adeiladau’r Brifysgol ym Mangor ynghyd a safle’r Coleg Normal.  

 

Bwriad y newidiadau ydi ymateb yn gadarnhaol i’r adborth a cheisiadau sydd wedi eu derbyn gan bobl leol. Gobeithir bydd y newidiadau yn cynnal a chynyddu defnydd o’r rhwydwaith, a fydd yn ei dro yn gwneud y gwasanaethau yn hyfyw a chynaliadwy i’r dyfodol.

 

Fel rhan o’r newidiadau, bydd pris tocynnau safonol yn cael ei gyflwyno, fel sydd eisoes wedi ei gyflwyno mewn rhannau eraill o’r sir. Bydd hyn yn cynnig dull tocynnau tecach ar draws Gwynedd, gyda phris safonol, yn seiliedig ar bellter un ffordd.

 

Mae manylion llawn am amserlenni bysiau yng Ngwynedd, gan gynnwys y newidiadau fydd yn cael eu cyflwyno o 30 Mehefin i’w gweld ar www.gwynedd.llyw.cymru/bws