Ail-agor pont droed poblogaidd ym Mhwllheli
Dyddiad: 24/12/2024
Mae Cyngor Gwynedd wedi ail-agor y bont droed poblogaidd ger Lôn Cob Bach ym Mhwllheli gyda chefnogaeth Partneriaeth Natur Gwynedd. Mae hyn yn dilyn gwaith atgyweirio yn dilyn difrod tân.
Roedd rhaid cau y bompren rhwng Lôn Cob Bach a Phont Solomon ym Mhwllheli nôl ym mis Hydref yn dilyn amheuon am losgi bwriadol. Achoswyd difrod sylweddol i rannau o’r bont droed a oedd yn golygu nad oedd y strwythur yn ddiogel i’r cyhoedd ei defnyddio.
Mae’r Cyngor yn falch fod y bompren yma sydd mewn lleoliad poblogaidd yn y dref wedi gallu ail-agor cyn diwedd y flwyddyn.
Cafodd rhan sylweddol o’r bompren ei losgi nos Fercher, 23 Hydref 2024. Mae’r Cyngor annog y cyhoedd i adrodd unrhyw ddifrod neu fandaliaeth i Heddlu Gogledd Cymru.