Cwmni offer amaethyddol i dalu £34,000 am droseddau iechyd a diogelwch

Dyddiad: 12/12/2024

Ar 3 Tachwedd 2021 fe fu damwain angheuol yn safle GNH Agri Ltd, Meithrinfa, Aberdesach.  Bu farw Mr Warren Hayles, wedi i bygi golff a oedd wedi ei godi gan dryc ‘pallet stacker’  ddisgyn arno o uchder.

Roedd Mr Hayles yn beiriannydd profiadol oedd yn gweithio i’r cwmni ers cryn amser.

Yn dilyn y ddamwain, cynhaliwyd ymchwiliad gan swyddogion iechyd yr amgylchedd Cyngor Gwynedd gyda chymorth arolygwyr arbenigol y Gweithgor  Iechyd a Diogelwch (HSE) a Heddlu Gogledd Cymru.

Canfu'r ymchwiliad fod asesiadau risg y cwmni yn annigonol, roedd y cyfarpar codi a ddefnyddiwyd yn gwbl anaddas ac nad oedd trefniadau addas ar gyfer hyfforddi a goruchwylio staff.

Yn dilyn erlyniad gan Gyngor Gwynedd fe bleidiodd GNH Agri Ltd yn euog i’r cyhuddiad eu bod wedi methu, cyn belled â fo’n ymarferol bosib, sicrhau iechyd a diogelwch eu gweithwyr.

Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron, Yr Wyddgrug, ar 28 Tachwedd, cafodd y cwmni ddirwy o £16,000 a gorchymyn i dalu costau o £18,000 a thaliad ychwanegol o £190.

Dywedodd Dafydd Wyn Williams, Pennaeth Adran Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

“Roedd yr achos yma yn un difrifol iawn a hynny yn dilyn damwain trasig ar safle cwmni GNH yn Aberdesach lle collodd Warren Hayles ei fywyd. Mae swyddogion y Cyngor wedi cadw mewn cyswllt gyda’r teulu yn ystod yr ymchwiliad ac rydym yn estyn ein cydymdeimlad iddynt yn dilyn cyfnod mor anodd.

“Fel Cyngor, mae dyletswydd arnom i sicrhau fod unrhyw safle gwaith yn ddiogel a bod gweithwyr yn cael eu diogelu yn ystod eu gwaith bob dydd.

“Mae’n hollbwysig fod perchnogion busnesau a rheini sy’n gyfrifol am safleoedd yn sicrhau bod offer addas yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith, fod dulliau gweithredu diogel mewn lle, ac asesiadau risg addas wedi eu paratoi ac yn cael eu gweithredu.”