Cyhoeddi Cabinet newydd Cyngor Gwynedd
Dyddiad: 06/12/2024
Yn dilyn ei hethol yn Arweinydd newydd Cyngor Gwynedd, mae’r Cynghorydd Nia Jeffreys wedi cyhoeddi aelodaeth a chyfrifoldebau ei chabinet.
Bydd Aelodau’r Cabinet newydd yn ymgymryd a’u dyletswyddau o ddydd Llun, 9 Rhagfyr ymlaen.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd y Cyngor: “Rwyf yn falch iawn o fedru cyhoeddi fy nghabinet newydd heddiw. Mae’r tîm yn cynnwys cyfuniad o aelodau profiadol a thalentau newydd sy’n cynrychioli ystod o gefndiroedd amrywiol. Diolch iddynt am fod mor barod i weithio dros bobl Gwynedd.
“Wrth i ni wynebu ail hanner y ddegawd hon, a’r heriau sy’n siŵr o fod ar y gorwel, dwi’n ffyddiog bydd y tîm brwdfrydig yma yn barod i sicrhau fod Cyngor Gwynedd yn parhau i fod yn uchelgeisiol dros bobl a chymunedau’r sir.
“Mae’r Cynghorydd Menna Trenholme eisoes wedi dangos ei gallu fel aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol y Cyngor dros y blynyddoedd diweddar, ac mae’r cam hwn i fod yn Ddirprwy Arweinydd yn esblygiad naturiol. Dyma hefyd y tro cyntaf y bydd y ddwy brif swydd ar Gabinet Cyngor Gwynedd yn nwylo merched, sy’n destun balchder i mi.
“Un rhan o weinyddiaeth y Cyngor yw’r Cabinet wrth gwrs, ac rydym fel tîm yn edrych ymlaen at gydweithio gyda holl aelodau’r Cyngor o bob grŵp gwleidyddol a staff y Cyngor er budd cymunedau a phobl Gwynedd.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys: “Wrth gadarnhau manylion y Cabinet newydd, dymunaf ddiolch o galon i fy rhagflaenydd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn ac i’r Cynghorwyr Dafydd Meurig, Beca Brown, Berwyn Parry Jones ac Elin Walker Jones am eu gwaith a’u hymrwymiad dros y blynyddoedd. Rwyf yn gwybod y byddant yn parhau i wneud cyfraniad gwerthfawr ac adeiladol i waith y Cyngor.”
Rhestr lawn o aelodaeth y Cabinet newydd a’u dyletswyddau:
Y Cynghorydd Nia Jeffreys -Arweinydd
Y Cynghorydd Menna Trenholme - Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Plant a Chefnogi Teuluoedd
Y Cynghorydd Craig ab Iago - Aelod Cabinet Amgylchedd
Y Cynghorydd Medwyn Hughes - Aelod Cabinet Economi a Chymuned
Y Cynghorydd Dewi Jones - Aelod Cabinet Addysg
Y Cynghorydd Huw Wyn Jones - Aelod Cabinet Cyllid
Y Cynghorydd June Jones, Aelod Cabinet dros Briffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd
Y Cynghorydd Dilwyn Morgan - Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant
Y Cynghorydd Llio Elenid Owen - Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol a Cyfreithiol
Y Cynghorydd Paul Rowlinson - Aelod Cabinet Tai ac Eiddo