Ethol Arweinydd benywaidd cyntaf Cyngor Gwynedd

Dyddiad: 05/12/2024

Mae’r Cynghorydd Nia Jeffreys wedi ei hethol yn Arweinydd newydd ar Gyngor Gwynedd yn ystod cyfarfod o’r Cyngor Llawn heddiw (5 Rhagfyr, 2024). 

Mae’r Cynghorydd Nia Jeffreys wedi bod yn Ddirprwy Arweinydd ar Gyngor Gwynedd ers 2022. Mae hi wedi bod yn Aelod Cabinet ers Mai 2018 ac yn cynrychioli Ward Porthmadog (Dwyrain) ers 2017.

Wrth gael ei hethol, dywedodd y Cynghorydd Jeffreys:

“Rwy’n hynod o falch o’r fraint o gael fy ethol yn Arweinydd Cyngor Gwynedd, ac hefyd o fod yr arweinydd benywaidd cyntaf yn hanes y Cyngor hwn.

“Mae gwasanaethau cyhoeddus yn agos iawn at fy nghalon. Fel rhywun a fagwyd ar aelwyd tŷ cyngor, oedd yn derbyn cinio ysgol am ddim ac a elwodd o grant llawn i fynd i’r brifysgol, dwi’n gwybod o brofiad personol y dylanwad mae’r gwasanaethau gwerthfawr hyn yn gallu eu cael ar fywydau pobl.

“Dros y blynyddoedd, mae gwasanaethau hanfodol lleol wedi dioddef toriadau creulon oherwydd cyfres o setliadau ariannol llym gan y Llywodraeth. Rydw i’n gweld gyda fy llygaid fy hun yr effaith mae hyn yn ei gael ar unigolion, teuluoedd a chymunedau ar draws y sir. Fel Arweinydd newydd, fy ngweledigaeth ac fy uchelgais yw i frwydro dros y gwasanaethau cyhoeddus hyn fel gall cenedlaethau’r dyfodol elwa yn yr un ffordd a phobl fel fi.

“Un o’r prosiectau yr wyf fwyaf balch ohono yn ystod fy nghyfnod gyda Cyngor Gwynedd yw ein gwaith rhagweithiol i helpu pobl a chymunedau Gwynedd i ddelio â’r argyfwng costau byw. Gyda mwy o ansicrwydd o’n blaenau – costau bwyd ac ynni yn parhau i godi a’r galw am wasanaethau cyhoeddus yn cynyddu – byddaf yn parhau i wneud popeth posib yn y swydd bwysig hon i sicrhau’r gorau i bobl Gwynedd.

“Rwyf hefyd yn frwd dros yr iaith Gymraeg ac yn hynod falch i mi ddod yn ôl i Wynedd i fagu fy mhlant mewn amgylchedd Gymraeg a Chymreig. Rydw i’n angerddol dros gadw’r Gymraeg yn iaith fyw yn ein cymunedau a gwneud yn siŵr fod unigolion, busnesau a sefydliadau yn cael pob cyfle i ddefnyddio eu Cymraeg. 

“Rwyf yn edrychaf ymlaen i weithio gyda fy nghyd-aelodau a staff y Cyngor dros y cyfnod nesaf i adeiladu ar y seiliau cadarn sydd gennym. Mae gan bawb gyfraniad i’w wneud, a byddwn yn gwneud ein gorau i hybu gwaith y Cyngor er lles holl drigolion Gwynedd.”

Mae’r Cynghorydd Nia Jeffreys yn olynu'r Cynghorydd Dyfrig Siencyn fel Arweinydd Cyngor Gwynedd, wedi iddo gamu lawr o’r rôl fis Hydref, 2024. 

Mae’r Cynghorydd Jeffreys wedi gweithio i Cyfoeth Naturiol Cymru, Asthma UK Cymru, BT, a’r elusen cydraddoldeb Chwarae Teg. Dechreuodd ei gyrfa fel ymchwilydd gwleidyddol yn San Steffan. Mae’r Cynghorydd Jeffreys yn fam i ddau.