Gwaith adeiladu yn dechrau ar 10 cartref fforddiadwy ym Mangor

Dyddiad: 04/12/2024

Mae seremoni torri tywarchen wedi nodi dechrau’r gwaith o adeiladu 10 tŷ fforddiadwy ar safle hen Ysgol Babanod Coed Mawr ym Mangor. Mae’r prosiect hwn yn rhan o gynllun adeiladu tai uchelgeisiol Tŷ Gwynedd, Cyngor Gwynedd i fynd i’r afael â phrinder tai’r sir a sicrhau bod gan bobl leol mynediad at gartrefi fforddiadwy o safon uchel.

Bydd deg tŷ yn cael eu codi ar y safle hwn, sef chwe thŷ gyda thri llofft a phedwar tŷ gyda dwy lofft. Bwriad y tai yw diwallu anghenion pobl leol, yn enwedig rheini sy’n ei chael hi’n anodd prynu neu rentu cartref ond sydd efallai ddim yn gymwys am dŷ cymdeithasol.

Bydd pob Tŷ Gwynedd a adeiladir gan y Cyngor yn dilyn egwyddorion craidd, sef eu bod yn:

  • Fforddiadwy 
  • Addasadwy
  • Cynaliadwy 
  • Ynni-effeithiol 

 

Yn bresennol yn y seremoni oedd cynrychiolwyr o Gyngor Gwynedd, OBR Construction, WM Design & Architecture, y Cynghorwyr Craig ab Iago a Gareth A. Roberts, aelodau o Gyngor Gwynedd; a’r Cynghorydd Gareth Parry, Maer Dinas Bangor.

Mae’r datblygiad yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai’r Cyngor i sicrhau bod trigolion Gwynedd yn cael mynediad at dai fforddiadwy, o safon, yn eu cymunedau eu hunain. Mae’r cynllun yn cynnwys darparu dros 1000 o dai fforddiadwy erbyn 2027, gan gynnwys datblygu cartrefi newydd drwy gynllun Tŷ Gwynedd.

Disgwylir y bydd y gwaith adeiladu yn cwblhau o gwmpas gwanwyn 2026. I weld y meini prawf cymhwysedd, ewch i wefan Tai Teg: https://taiteg.org.uk/cy/

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Dai ac Eiddo:

“Hoffwn ddiolch i bawb a ymunodd â ni yn y digwyddiad i ddathlu’r garreg filltir arwyddocaol yma. Mae’r prosiect yma’n rhan hollbwysig o fy ngweledigaeth i fel Aelod Cabinet i sicrhau ein bod yn darparu'r hawl dynol sylfaenol o gartrefi fforddiadwy ac addas i drigolion Gwynedd. Dw i'n falch iawn o weld y gwaith ar y tai yma’n dechrau er mwyn darparu tai i bobl leol. 

“Mae’r angen am dai fforddiadwy yn tyfu’n gyflym ar draws y wlad, a bydd y galw yma ond yn dwysáu wrth i’r argyfwng costau byw effeithio ar fwy o bobl. Dw i’n annog unrhyw un sydd efo diddordeb yn yr hyn sydd gan y cynllun yma i'w gynnig ymweld â safle we Tai Teg er mwyn gweld a ydynt yn gymwys i gofrestru gyda Tai Teg am dŷ fforddiadwy.”

Am ragor o wybodaeth am y cynllun, ewch i dudalen we Tŷ Gwynedd:  Cynllun Tŷ Gwynedd (llyw.cymru)