Murlun unigryw i gyfleu hanes a threftadaeth llechi Blaenau Ffestiniog

Dyddiad: 20/12/2024

Mae’r unig ferch a gofnodwyd yn defnyddio’r “car gwyllt” ar droad yr ugeinfed ganrif yn serennu mewn murlun newydd sy’n dathlu hanes y diwydiant llechi ym Mlaenau Ffestiniog.

Mae’r mosaig newydd - sydd wedi ei wneud yn gyfan gwbl o lechi - wedi ei osod ar dalcen adeilad Beatons yn y dref fel rhan o raglen Llewyrch o’r Llechi Cyngor Gwynedd ac yn dangos Kate Griffiths, ysgolfeistres Rhiwbach ar ddechrau'r 1900au.

Byddai Kate Griffiths yn teithio yn ôl ac ymlaen i’r ysgol bob diwrnod mewn ffordd unigryw iawn – byddai’n cael pas yn un o'r wagenni gwag i frig yr inclein uwchben Chwarel Maenofferen ac yn cerdded i Riwbach yn y bore; ac yna yn y prynhawn byddai’n cerdded i chwarel Graig Ddu ac yn dod yn ôl i lawr i Flaenau ar ei char gwyllt.

Comisiynwyd y gwaith celf cyhoeddus trawiadol gan Gyngor Gwynedd ac mae’n un o nifer o brosiectau sy’n adrodd stori'r diwydiant llechi yn ardal Gogledd Orllewin Cymru, fel rhan o ardal Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi.

Original Roofing Company, cwmni lleol o Flaenau Ffestiniog, sydd wedi creu’r murlun unigryw gan ddefnyddio sawl math o lechen o wahanol liwiau a gwead er mwyn cyfleu nifer o elfennau pwysig yn hanes y diwydiant llechi. Yn ogystal â’r car gwyllt, gwelir yr haenau llechi yn y graig, tirlun mynyddoedd y Moelwyn a’r tomenni llechi a nodau cerddoriaeth i gynrychioli’r bandiau pres a’r eisteddfodau.

Dywedodd Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:

“Mae Cyngor Gwynedd wedi manteisio ar gyllidebau Llywodraeth y DU i ddathlu ein dynodiad fel Safle Treftadaeth Byd ac rydym yn hynod falch bod cwmni lleol wedi cyd-weithio gyda’r gymuned i ddatblygu’r darn unigryw yma o waith ym Mlaenau Ffestiniog.

“Dros y misoedd nesaf fe fyddwn yn gweld darnau newydd ac amrywiol iawn o gelf yn cael eu gosod ar draws rhai o drefi a phentrefi’r tirlun llechi ac edrychaf ymlaen at weld ymateb ein cymunedau i’r rhain.

“Rydw i wrth fy modd gyda’r gwaith newydd hwn ar adeilad Beatons – nid yn unig ydyw’n  bortread o’r ardal a’r diwydiant llechi, ond hefyd yn ddathliad o ddiwylliant a phwysigrwydd y Gymraeg yno hefyd.

“Un o brif amcanion ein safle treftadaeth byd yw cofio a dathlu ein cyfraniad wrth doi’r byd er mwyn hybu adfywiad economaidd a chymdeithasol ac ennyn balchder yn ein stori ryngwladol. Mae’r prosiect yma’n rhan bwysig o gyflawni hynny.”

Cyfarwyddwyr cwmni Original Roofing yw Sam Buckley a Kaz Bentham, dau sy’n hanu o Flaenau Ffestiniog ac wedi gweithio efo llechi ers iddynt adael yr ysgol.

Yn ôl Sam, roedd angen cryn dipyn o waith cynllunio a pharatoi y dyluniad, cyn dechrau gweithio ar y murlun ei hun.

Eglurodd: “Roedd yn dipyn o sialens sut i gyfleu stori diwydiant llechi Blaenau a hynny drwy ddefnyddio’r lechen ei hunan; dwi’n credu inni lwyddo yn y pen draw.”

Yn ôl Kaz, roedd angen defnyddio dychymyg wrth osod deunyddiau fel pres a dur i gynrychioli gwahanol agweddau o’r cynllun.

Meddai: “Roedd archebu rhai deunyddiau yn drwm ar y boced ond mae’r gwaith pres, er enghraifft, wedi llwyddo i gyfleu sawl agwedd amlwg a phwysig o stori y dre, fel y bandiau pres enwog, a hynny mewn modd trawiadol.”

Mae’r darn yma ym Mlaenau Ffestiniog yn un o nifer o weithiau celf cyhoeddus sydd wedi eu comisiynu gan Gyngor Gwynedd gyda’r bwriad o godi ymwybyddiaeth o Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru a chyfleu stori a chymeriad y diwydiant llechi ym mhob ardal. Bydd modd gweld ffrwyth y llafur hwn ym Mhorthmadog, Penygroes, Blaenau Ffestiniog, Bethesda a Llanberis a bydd gwaith cysylltiedig hefyd yn cael ei gomisiynu yn Nhywyn.

Ariennir y gosodiadau celf gan Lywodraeth Prydain drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin a rhaglen buddsoddiad ddiwylliannol Llewyrch o'r Llechi Cyngor Gwynedd. Rheolwyd y prosiect gan gwmni Lafan.