Trefniadau gwastraff Gwynedd dros gyfnod y Nadolig

Dyddiad: 12/12/2024
Oherwydd gwyliau’r Nadolig, ni fydd casgliadau gwastraff ac ailgylchu Cyngor Gwynedd yn cael eu cynnal ar 25, 26 a 27 Rhagfyr eleni. Bydd casgliadau yn cael eu cynnal yr wythnos ganlynol, gan gynnwys y cartrefi sy’n cael casgliadau bagiau melyn.

 

Er ei bod yn ŵyl banc, bydd casgliadau arferol i bawb fydd yn cael casgliad ar ddydd Mercher, 1 Ionawr 2025.

 

Er mwyn hwyluso’r trefniadau i drigolion Gwynedd ar adegau pan mae mwy o ddeunydd fel cardfwrdd a phecynnau yn hel yn y cartref, ni fydd angen trefnu apwyntiad i fynychu canolfannau ailgylchu’r Cyngor ar gyfer y cyfnod o 27 Rhagfyr tan 11 Ionawr.

 

Mae manylion llawn eich canolfan leol ar gael ar ‘apGwynedd’ ar eich ffôn clyfar neu ddyfais llechen neu trwy fynd i www.gwynedd.llyw.cymru/ailgylchu

 

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab iago, Aelod cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

 

“Tra bod yna lawer y gall trigolion ei wneud i ail-ddefnyddio a cheisio torri lawr ar wastraff di-angen wrth baratoi at y Nadolig, mae’n gyfnod lle mae mwy o sbwriel ac ailgylchu na’r arfer yn gallu hel mewn cartrefi.

 

“Dyna pam ein bod yn annog pobl Gwynedd i wneud y mwyaf o ganolfannau ailgylchu’r Cyngor - ni fydd angen trefnu apwyntiad dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd i fynychu’r canolfannau.

 

“Mae’r canolfannau ailgylchu yn gallu bod yn brysur, felly os ydi’r safle’n llawn pan fyddwch chi’n mynd draw, ystyriwch os byddai’n well i chi ddychwelyd ar amser arall. Mae’r canolfannau ailgylchu ar agor o 9am tan 4pm, ond cofiwch wirio dyddiau agor eich canolfan leol cyn cychwyn.

 

“Mae cyngor a gwybodaeth am ailgylchu a manylion am eich canolfan leol a’ch dyddiadau casglu ar gyfer y flwyddyn hefyd ar gael ar www.gwynedd.llyw.cymru/ailgylchu.”

 

Bydd cartrefi fydd yn methu casgliadau ar ddydd Nadolig yn derbyn casgliad ar y dydd Mercher canlynol, sef 1 Ionawr 2025. I gartrefi fydd yn methu casgliad ar ddydd San Steffan (26 Rhagfyr), bydd eich casgliad ar ddydd Iau, 2 Ionawr 2025, gyda chartrefi fydd yn methu casgliad ar 27 Rhagfyr yn derbyn casgliad ar ddydd Gwener, 3 Ionawr 2025.

 

Mae’r canolfannau ailgylchu ar agor tan 1pm ar 24 Rhagfyr ac yn ail-agor ar ôl y Nadolig ar ddydd Gwener, 27 Rhagfyr. Bydd y canolfannau ar gau ar Ddydd Calan. Ni fydd angen gwneud apwyntiad dros y cyfnod rhwng 27 Rhagfyr a 11 Ionawr.

 

Ni fydd casgliadau gwastraff masnachol Cyngor Gwynedd yn cael eu cynnal ar 25, 26 a 27 Rhagfyr eleni. Bydd y casgliadau hyn yn cael eu cynnal yr wythnos ganlynol.

 

Am fwy o wybodaeth am wasanaethau ailgylchu a gwastraff y Cyngor, gan gynnwys oriau agor eich canolfan ailgylchu leol ewch i www.gwynedd.llyw.cymru/ailgylchu neu os nad oes gennych fynediad i’r we, gallwch ffonio 01766 771000.

 

Nodiadau:

Manylion llawn am gasgliadau dros gyfnod y Nadolig yng Ngwynedd:

  • Ni fydd casgliadau ar 25 Rhagfyr, gyda phob cartref fyddai efo casgliad ailgylchu/bin gwyrdd/ bagiau melyn yn cael ei gasglu ar 1 Ionawr 2025;
  • Ni fydd casgliadau ar 26 Rhagfyr, gyda phob cartref fyddai efo casgliad ailgylchu/bin gwyrdd/ bagiau melyn yn cael ei gasglu ar 2 Ionawr 2025;
  • Ni fydd casgliadau ar 27 Rhagfyr, gyda phob cartref fyddai efo casgliad ailgylchu/bin gwyrdd/ bagiau melyn yn cael ei gasglu ar 3 Ionawr 2025.

 

Manylion llawn am oriau agor y canolfannau ailgylchu dros gyfnod y Nadolig yng Ngwynedd:

24 Rhagfyr – canolfannau ailgylchu ar agor o 9am tan 1pm (angen gwneud apwyntiad);

25 Rhagfyr a 26 Rhagfyr – pob canolfan ailgylchu ar gau;

27 Rhagfyr tan 31 Rhagfyr – canolfannau ar agor fel arfer (9am tan 4pm) a dim angen apwyntiad heblaw dydd Sul, 29 Rhagfyr pan mae’r canolfannau i gyd ynghau;

1 Ionawr – pob canolfan ailgylchu ar gau;

2 Ionawr tan 11 Ionawr – canolfannau ar agor fel arfer (9am tan 4pm) – dim angen apwyntiad;

13 Ionawr ymlaen – canolfannau ar agor fel arfer (trefn apwyntiadau yn ail-ddechrau).

 

*Noder mai ar ddydd Llun, Gwener a Sadwrn yn unig mae canolfannau ailgylchu’r Bala a Blaenau Ffestiniog ar agor.