Atgoffa trigolion i hawlio eu credyd pensiwn
Dyddiad: 12/11/2024
Mae Cyngor Gwynedd am atgoffa trigolion bod amser yn brin i hawlio eu Credyd Pensiwn er mwyn cyrraedd y trothwy i hawlio Taliad Tanwydd y Gaeaf ar gyfer eleni. Er mwyn sicrhau gallu hawlio mae’n rhaid cyflwyno cais erbyn y dyddiad cau ar 21 Rhagfyr, 2024.
Mae sawl aelwyd yng Ngwynedd yn gymwys am y budd-dal, ond yn colli allan. Mae’r neges yn glir i bobl hŷn – a’u teuluoedd a chyfeillion – i wirio os ydynt yn gymwys a gwneud cais cyn y terfyn amser sydd llai na 40 niwrnod i ffwrdd.
Gellir gwneud cais ar-lein, dros y ffôn neu drwy’r post. Mae’r wybodaeth lawn ar gael ar wefan y Llywodraeth www.gov.uk/credyd-pensiwn ac mae cymorth ar gael yn lleol i’r rheini nad ydynt ar-lein neu sydd angen help i wneud cais.
Gallai hawlio credyd pensiwn godi incwm unigolyn i £218.15 yr wythnos i berson unigol neu £332.95 yr wythnos i gwpwl. Mae cael mynediad i’r credyd hwn hefyd yn gallu agor y drws i fuddion eraill, megis cymorth gyda chostau tai, treth cyngor, lwfans gwresogi a thrwydded deledu.
Mae’r Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i godi ymwybyddiaeth i sicrhau bod trigolion y sir yn derbyn yr hyn sy’n ddyledus iddynt, ac i wneud y mwyaf o’r cymorth sydd ar gael yn wyneb yr heriau economaidd a chymdeithasol cyfredol.
Mae’r rhai sydd ddim yn sicr os ydynt yn gymwys – neu ddim yn siŵr sut i wneud cais – yn cael eu hannog i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael gan Gyngor Gwynedd, sy’n cynnwys:
- Bydd nifer o gartrefi yn derbyn llythyr gan Cyngor Gwynedd. Cadwch lygaid allan am y llythyr a dilyn y camau sy’n cael eu nodi.
- Mae gwybodaeth ynghylch cymorth costau byw ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd. Ewch i Cymorth Costau Byw (llyw.cymru)
- Holwch yn eich Hwb Cymunedol lleol. Mae manylion am leoliad yr hybiau ac oriau agor ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd: Cefnogaeth bellach a hybiau cymunedol (llyw.cymru)
- Mae swyddogion Cyngor Gwynedd yn mynychu digwyddiadau cymunedol rheolaidd ac yn cynnal sesiynau wyneb-yn-wyneb sy’n gyfle i siarad efo pobl o bob oedran a chefndir am ba gymorth sydd ar gael.
- Gall staff Llyfrgelloedd Gwynedd a Siopau Gwynedd (Caernarfon, Pwllheli a Dolgellau) gyfeirio pobl at gymorth a helpu rheini sydd heb fynediad i’r we i ddefnyddio cyfrifiaduron yn rhad ac am ddim.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd a’r Aelod Cabinet sy’n arwain ar faterion trechu tlodi: “Mae sicrhau bod pobl leol yn cael mynediad i’r cymorth ariannol sydd ar gael iddynt yn flaenoriaeth i’r Cyngor. Dyna pam rydym yn cynnal sesiynau gwybodaeth ar hyd a lled y sir, yn ogystal â gweithio gyda’n partneriaid o’r trydydd sector i gefnogi Hybiau Cymunedol Gwynedd.
“Byddwn yn annog unrhyw un sydd ddim yn siŵr os ydynt yn gymwys, nac yn sicr sut mae mynd o gwmpas cyflwyno cais, i gysylltu gyda’r Cyngor neu efo’u Hwb Cymunedol am gymorth.
“Mae llawer o sôn wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar fod colli’r taliad ynni gaeaf yn ergyd drom i rai pobl. Felly gall hawlio credyd pensiwn wneud byd o wahaniaeth i fywydau pobl hŷn, gan ei fod ar gyfartaledd werth £3,900 y flwyddyn.
“Mae Credyd Pensiwn ar gael i helpu gyda chostau byw os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac ar incwm isel. Rydw i’n bryderus fod llawer o bobl hŷn yn credu nad ydynt yn gymwys gan fod ganddynt gynilon neu berchen eu cartref eu hunain, ond nid yw hyn yn wir. Mae’n bwysig cofio fod hawlio’r credyd hefyd yn gallu agor y drws i fudd daliadau a chymorth arall.”
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais ymwelwch â gwefan Llywodraeth y DU Credyd Pensiwn: Trosolwg - GOV.UK (www.gov.uk)