Cydnabod treftadaeth llechi Porthmadog trwy gelf gyhoeddus
Dyddiad: 20/11/2024
Bydd pedwar darn o gelf cyhoeddus trawiadol i’w gweld yn fuan o gwmpas tref Porthmadog wedi i Gyngor Gwynedd gomisiynu’r gwaith fel rhan o brosiect Llewyrch o'r Llechi.
Mae’r artist Howard Bowcott wedi bod yn gweithio gyda phlant ysgol lleol ac aelodau eraill o’r gymuned er mwyn creu’r gweithiau cyffroes fydd yn nodi rôl allweddol y dref yn hanes a threftadaeth diwydiant llechi Gogledd Orllewin Cymru.
Mae’r cerfluniau yn gysylltiedig i, ac yn ddathliad o, ddynodiad Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru a byddant i’w gweld yn ardal yr harbwr ger yr Amgueddfa Forwrol, y parc yng nghanol y dref, maes parcio'r orsaf drenau ger Byw’n Iach Glaslyn, ac ar lwybr Cob Crwn lle mae’n ymuno gyda Stryd yr Wyddfa.
Bydd pob darn yn cynnwys haenau o lechi cerfiedig, wedi'u cynllunio'n unigryw i ymgorffori cymeriad a hanes y gwahanol leoliadau. Er enghraifft, mae disgyblion Ysgol Eifion Wyn wedi bod yn brysur yn creu siapiau cregyn fydd yn cael eu hymgorffori i nodwedd morlin un o’r darnau celf.
Enghraifft arall yw’r cerflun yn y parc fydd yn cynnwys motiffau rhaff, oherwydd y gwaith rhaff hanesyddol a gynhaliwyd yno; efallai nad yw llawer o bobl ymwybodol o’r cysylltiad yma.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet dros yr Economi ac aelod lleol Dwyrain Porthmadog:
"Mae gan Borthmadog hanes cyfoethog a bywiog, ac rwyf wrth fy modd bod y gelf gyhoeddus yn dathlu ein treftadaeth lechi a rhan Porthmadog o fewn Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru.
“Mae plant Ysgol Eifion Wyn ac Ysgol Eifionydd wedi gweithio gyda'r artistiaid a'r grwpiau cymunedol i greu cerfluniau ysbrydoledig ac unigryw.
“Rwy'n edrych ymlaen at eu gweld yn cael eu gosod mewn gwahanol leoliadau ar draws ein tref."
Dywedodd Howard Bowcott:
"Cawsom fore hapus a chynhyrchiol gyda Blwyddyn 6 Eifion Wyn - gydag amrywiaeth eang o gregyn!
"Roeddent yn blant bywiog ond hefo diddordeb mawr. Diolch i’r staff am eu cymorth hefyd - rydym wedi gwneud trefniadau i alluogi'r plant i wylio'r cerflun yn y Ganolfan Hamdden yn cael ei gosod i'w le ym mis Rhagfyr."
Mae Howard yn frwd dros hanes llechi'r ardal a defnyddiodd arbenigwyr a haneswyr lleol i lywio dyluniadau'r cerfluniau, gan gynnwys rhai o’r Amgueddfa Forwrol a Rheilffordd Ffestiniog.
Dywedodd Heulwen Williams, prifathrawes Eifion Wyn:
“Mae disgyblion Blwyddyn 6 wedi bod wrth eu bodd yn creu cregyn fydd yn llunio un elfen o’r cerflun fydd yn cael ei osod ym Mhorthmadog. Maent wedi dysgu am hanes a phwysigrwydd yr ardal i’r diwydiant llechi ac yn edrych ymlaen i allu adnabod pa gragen sydd yn perthyn iddynt hwy ar y cerflun gorffenedig.”
Ychwanegodd Marian Roberts, ar ran Cyngor Tref Porthmadog:
“Mae aelodau o’r Cyngor Tre’ wedi bod ynghlwm efo’r paratoadau ar gyfer y celf ym Mhorthmadog ers y dechrau, ac wedi dilyn taith yr artist wrth iddo ddehongli hanes a threftadaeth y diwydiant llechi yn y dref. Edrychwn ymlaen yn fawr iawn at weld y cerfluniau gorffenedig yn eu lle a fydd yn cyhoeddi pwysigrwydd Porthmadog fel rhan o Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru.”
Ers i Gyngor Gwynedd a'i bartneriaid allweddol sicrhau dynodiad Safle Treftadaeth y Byd ar gyfer Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn 2021, mae llawer o waith wedi'i wneud i fanteisio ar y dynodiad er budd ein cymunedau a'n busnesau.
Mae Llewyrch o'r Llechi yn rhaglen fuddsoddi ddiwylliannol a ariennir gan Lywodraeth y DU.
Mae'r prosiect celf hwn yn un o nifer o brosiectau buddsoddi parhaus sy'n cyfrannu at weledigaeth y Safle Treftadaeth y Byd, sef diogelu, cadw, gwella a chyfleu priodweddau pwysig yr ardal er mwyn atgyfnerthu hynodrwydd diwylliannol a chryfhau'r Gymraeg, a dod yn sbardun pwysig i adfywio economaidd a chynhwysiant cymdeithasol.
Mae comisiynau celf gyhoeddus eraill sy'n gysylltiedig â’r Safle Treftadaeth y Byd yn cael eu cynnal ym Mhenygroes, Llanberis, Bethesda, Blaenau Ffestiniog a Thywyn.
Am fwy o wybodaeth, ewch i www.llechi.cymru