Cyfle i ddweud eich dweud ar ddatblygiadau Dinas Dinlle

Dyddiad: 26/11/2024
Mae Cyngor Gwynedd yn holi am farn y cyhoedd yn dilyn cyfnod prawf o godi ffioedd parcio ger un o draethau mwyaf poblogaidd y sir.

 

Dros fisoedd Awst a Medi eleni, roedd ffi yn daladwy os am barcio am fwy nag awr rhwng 9am a 5pm yn y ddau brif faes parcio yn Ninas Dinlle. Mae Cyngor Gwynedd nawr yn gofyn am adborth a sylwadau’r cyhoedd am y gwelliannau a wnaed i’r cyfleusterau ac am y cyfnod arbrofol hwn o godi tâl am barcio.

 

Mae modd i’r drigolion a busnesau lleol, defnyddwyr y maes parcio ac aelodau o sefydliadau eraill gymryd rhan yn yr ymarferiad ymgysylltu drwy gwblhau holiadur byr:

 

  • Ar wefan y Cyngor: www.gwynedd.llyw.cymru/DinasDinlle
  • Mae copïau papur o’r holiadur hefyd ar gael yn Siop Gwynedd Caernarfon a Phwllheli ac yn Llyfrgelloedd Caernarfon a Phenygroes.

 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd:

 

“Yn gynharach eleni, cwblhawyd gwelliannau i faes parcio Dinas Dinlle yn cynnwys ail-wynebu, addasu’r fynedfeydd, marcio mannau parcio, tirweddu ac uwchraddio cyfleusterau.

 

“Yn ystod yr haf – o ganol mis Awst a gydol mis Medi – cafwyd cyfnod arbrawf o godi ffi i  barcio rhwng 9am a 5pm yn ddyddiol. Rydym nawr yn adolygu a gwerthuso’r trefniadau arbrofol fel rhan o waith i ddatblygu cynllun rheoli parhaol ar gyfer y safle.

 

“Gwahoddir adborth gan drigolion a busnesau lleol, defnyddwyr y maes parcio ynghyd â sefydliadau statudol fel rhan o’r gwaith gwerthuso.

 

Dyddiau cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw Dydd Gwener, 13 Rhagfyr 2024. Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir yn cael eu hystyried yn fanwl wrth i’r Cyngor symud ymlaen i lunio cynigion parhaol ar gyfer y safle, fydd yn destun ymgynghori ffurfiol pellach yn ystod 2025.

 

Nodiadau

Cynhaliwyd cyfnod arbrawf o godi tâl parcio yn Ninas Dinlle rhwng 16 Awst a 29 Medi 2024.

Roedd ffi yn daladwy os am barcio rhwng 9am a 5pm yn ddyddiol:

  • Hyd at 1 awr : Am ddim
  • Hyd at 2 awr : £2
  • Hyd at 3 awr : £3
  • Hyd at 8 awr : £6

Mae Tocyn Tymor 2024 am £25 y cerbyd hefyd wedi bod ar gael.