Cyngor Gwynedd yn annog y cyhoedd i helpu gwarchod treftadaeth leol

Dyddiad: 21/11/2024

Mae Cyngor Gwynedd yn annog pobl i adrodd am ddifrod troseddol i’r amgylchedd neu henebion os ydynt yn dod ar eu traws o fewn Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru.

Fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Treftadaeth, a gynhelir rhwng 18 a 24 Tachwedd, mae awdurdodau gan gynnwys y Cyngor, Heddlu Gogledd Cymru a Cadw yn cydweithio i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd am droseddau yn erbyn treftadaeth ac eiddo diwylliannol, ac i annog adrodd.

Troseddau treftadaeth yw unrhyw weithgaredd anghyfreithlon sy'n niweidio asedau hanesyddol gan gynnwys adeiladau, henebion, parciau, gerddi a thirweddau. Gall hyn olygu dwyn, difrod troseddol neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, a all nid yn unig niweidio'r creiriau hanesyddol eu hunain ond hefyd a all amharu ar fwynhad a dealltwriaeth y cyhoedd ohonynt.

Mae codi ymwybyddiaeth o droseddau treftadaeth yn arbennig o berthnasol gan y bu nifer o ddigwyddiadau eleni ym Mharc Gwledig Parc Padarn, Llanberis, sy'n un o’r ardaloedd allweddol o fewn Tirwedd Lechi Gogledd-orllewin Cymru.

Mae Cabannau fu’n cael eu defnyddio gan chwarelwyr wedi cael eu difrodi ac mae hen gerrig copa ar waliau wedi eu torri neu eu dymchwel. Ger Chwarel Vivian mae cerrig wedi eu taflu i byllau chwareli, mae boncyffion coed wedi eu gwthio o’u lle ac mae arwyddion ffyrdd yn ardal yr Allt-Ddu wedi eu difrodi. Yn fwyaf diweddar, dechreuwyd tân yn fwriadol mewn tŷ weindio ar ben inclein yr A1, Chwarel Vivian.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd ac Aelod Cabinet dros y Economi a Chymuned: 

“Mae ein treftadaeth leol yn hanfodol bwysig i'n diwylliant a'n hanes. Mae hefyd yn rhan annatod o'r economi leol gan ei fod yn denu ymwelwyr o bell ac agos. Rwyf felly yn annog pobl i barchu ein hasedau hanesyddol ac os oes unrhyw un yn gwybod rhywbeth am y digwyddiadau hyn – neu unrhyw ddigwyddiad arall lle mae creiriau hanesyddol wedi eu difrodi – i gysylltu â'r Heddlu.

“Mae atgyweirio unrhyw ddifrod fel yr achosion hyn ym Mharc Padarn yn cymryd amser ein wardeiniaid ac yn eu cadw rhag gwaith hanfodol arall. Mae hefyd yn faich ariannol arnom ni fel awdurdod, sy’n arbennig o bryderus ar adeg pan mae'r Cyngor yn gorfod bod yn hynod ofalus o bob ceiniog oherwydd cyllidebau sy'n crebachu.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys ei bod yn bosib iawn nad ydi’r bobl sydd wedi achosi'r difrod yn llawn sylweddoli eu bod yn peryglu rhan o’n diwylliant a threftadaeth hanesyddol leol.

Dywedodd: “Mae'r cerrig copa ar yr hen waliau er enghraifft yn drysor hanesyddol ynddynt eu hunain, gan eu fod chwarelwyr dros y canrifoedd wedi torri eu henwau neu wedi naddu lluniau arnynt. Os bydd rhain yn cael eu difrodi, byddant yn cael eu colli am byth.

“Yn yr un modd, mae'r cabanau  hefyd yn rhan annatod o'n hanes diwydiannol, ac mae'n bwysig ein bod yn eu cynnal a'u cadw fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ddysgu am y chwareli a'r cymunedau a ddatblygodd o gwmpas y gwaith.

“Mae'n bwysig cofio bod ardal Chwarel Dinorwig yn rhan o'r tirwedd llechi sydd wedi cael dynodiad Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, ac rydym am ddiogelu a dathlu hanes, diwylliant a threftadaeth ddiwydiannol yr holl ardal. Byddai'n dorcalonnus pe bai lleiafrif bach o unigolion di-hid yn difetha'r trysorau hanesyddol hyn."

Mewn argyfwng, pan fydd aelod o'r cyhoedd yn ymwybodol o drosedd treftadaeth sy'n cael ei chyflawni yn y fan a’r lle, dylid galw'r Heddlu ar 999. I roi gwybod am drosedd treftadaeth sydd eisoes wedi digwydd, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru gan ddefnyddio 101 neu riportio'r digwyddiad ar-lein: www.northwales.police.uk/cy-GB/ gan nodi mai trosedd treftadaeth sydd dan sylw.

Gellir rhoi gwybod i Crimestoppers drwy ffonio 0800 555 111, os ydych yn dymuno bod yn ddienw. Ar gyfer digwyddiadau nad ydynt yn rhai brys, gellir cysylltu â’r Heddlu yma: Atal troseddau gwledig | Heddlu Gogledd Cymru (northwales.police.uk)