Cyngor Gwynedd yn cefnogi ymgyrch i ddileu trais
Dyddiad: 25/11/2024
Mae Cyngor Gwynedd yn nodi diwrnod rhyngwladol Ymgyrch Rhuban Gwyn drwy annog ymddygiad positif i ddileu trais yn erbyn merched a genethod.
Mae’r Cyngor yn sefydliad achrededig Rhuban Gwyn a heddiw (Llun, 25 Tachwedd) yw dechrau wythnos ymwybyddiaeth o’r ymgyrch fyd-eang i annog ac addysgu dynion a bechgyn i ddod â thrais yn erbyn menywod i ben.
Eleni, mae Ymgyrch Rhuban Gwyn yn annog dynion i wneud eu hunain yn atebol i ferched ac i'w gilydd er mwyn sicrhau newid ymddygiad positif i drawsnewid diwylliannau niweidiol.
Fel awdurdod lleol, mae’r Cyngor yn gyfrifol am iechyd a lles staff a’r gymuned ehangach, ac mae gwerthoedd ymgyrch Rhuban Gwyn yn ganolog i hyn.
Dywedodd y Cynghorydd Menna Trenholme, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am faes Adnoddau Dynol:
“Mae gan Gyngor Gwynedd enw da fel lle da i weithio gydag awyrgylch gyfeillgar a chefnogol. Mae meddu ar yr achrediad hwn yn dangos ein bod yn cymryd mater trais yn erbyn menywod o ddifri ac yn defnyddio ein safle i ddylanwadu a gwneud gwahaniaeth yn fewnol ac yn allanol.”
Am fwy o wybodaeth am yr ymgyrch Rhuban Gwyn, ewch i’w gwefan: White Ribbon UK
Os oes angen unrhyw gefnogaeth ynglŷn a camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol, mae’r llinell gymorth Byw Heb Ofn ar gael Llinell gymorth Byw Heb Ofn | LLYW.CYMRU