Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, 2 Mai 2024
Cafodd etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ei chynnal ar 2 Mai, 2024.
Gweld canlyniadau'r etholiad
Beth yw rôl y Comisiynydd Heddlu a Throsedd?
Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn gwneud yn siŵr bod anghenion plismona eu cymunedau yn cael eu diwallu yn y ffordd fwyaf effeithiol, gan ddod â chymunedau yn nes at yr heddlu, magu hyder pobl yn y system ac adfer ffydd pobl.
Mae’r Comisiynydd yn rhoi llais i’r cyhoedd ar y lefel uchaf bosib’, ac yn rhoi’r gallu i’r cyhoedd sicrhau bod eu heddlu yn atebol.
Sut ydw i’n pleidleisio yn etholiad Comisiynydd Heddlu a Throsedd?
Mae rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru i bleidleisio, gwneud cais am bleidlais drwy’r post neu bleidlais drwy ddirprwy (yn cynnwys gwybodaeth am ID pleidleiswyr) ar gael ar dudalen Sut ydw i'n pleidleisio mewn etholiad?