Cynllun Digidol Cyngor Gwynedd 2023-28

Dyma Gynllun Digidol Cyngor Gwynedd, 2023-2028. Mae hon yn strategaeth uchelgeisiol a phellgyrhaeddol sy’n fyw i ddatblygiadau digidol y dydd ac yn amlinellu’r llwybr mae’r Cyngor am ei ddilyn er mwyn addasu i’r “dyfodol digidol”. Mae’n cynrychioli rhaglen o drawsnewid digidol sydd am ddatblygu er gwell y gwasanaethau mae’r Cyngor yn eu rhedeg.

Mae’r Cynllun Digidol yn cydredeg gyda Chynllun Cyngor Gwynedd (2023/2028), gan ehangu ar y prosiect digidol a gyfeiriwyd ato yn y pennawd “Prosiectau Gwynedd Effeithlon”. 

Ein gweledigaeth yw gwneud y Cyngor yn GYNGOR DIGIDOL, ple bod technoleg yn cael ei ddefnyddio’n ddoeth er mwyn darparu gwasanaethau’n fwy economaidd ac effeithiol, a phle mae’r cwsmer yn fwyfwy canolog ym mhopeth rydym yn ei wneud.

Gweld Cynllun Digidol Cyngor Gwynedd 2023-2028