Mae’r nifer sylweddol o dai yng Ngwynedd sy’n cael eu defnyddio fel ail gartrefi a llety gwyliau tymor-byr yn cael effaith andwyol ar allu pobl y sir i gael mynediad at gartrefi yn eu cymunedau.
Mae’r Cyngor wedi cyflwyno ymchwil manwl i’r Llywodraeth yn amlygu’r angen am weithredu ym meysydd cynllunio, trethiant a thrwyddedu er mwyn cael gwell rheolaeth o’r sefyllfa. Yn dilyn cyhoeddiadau diweddar gan y Llywodraeth, gan gynnwys sefydlu Peilot Dwyfor sy’n ymrwymo i gyflwyno camau i daclo problemau yn y maes, mae’r Cyngor yn paratoi i weithredu’r newidiadau deddfwriaethol mor fuan â phosib. Byddwn hefyd yn gosod premiwm treth Cyngor ar gyfer ail gartrefi a thai gwag bob blwyddyn ar gyfradd briodol i ymateb i’r sefyllfa ar y pryd.