
Mae’r rhaglen Merched Mewn Arweinyddiaeth Cyngor Gwynedd wedi bod yn ddim llai na trawsnewidiol i mi, nid yn unig yn broffesiynol ond yn bersonol hefyd. Wrth gychwyn y sesiynau doeddwn i ddim yn siŵr pam mod i yno gan nad oeddwn i yn arwain tîm ac ar y pryd ddim yn meddwl bod gen i’r profiad na’r hyder i arwain tîm yn y dyfodol. Dyma yn union mae’r rhaglen wedi roi i mi. Yr hyder a’r dealltwriaeth o agweddau arwain tîm fel fy mod nawr yn awyddus i roi ceisiadau i mewn am swyddi rheoli.
Bythefnos cyn gorffen y rhaglen cefais y cyfle i gesio am swydd lefel yn uwch a bum yn ffodus iawn o’i derbyn, mae hyn i gyd lawr i’r rhaglen am nid yn unig yr hyder ond y dealltwriaeth a’r sgiliau rwyf wedi ennill yn ystod y misoedd dwytha yn fy nghymell ymlaen allan o fy lle cyfforddus. Mae’n niolch i’n fawr iawn i’r tîm tu ôl i’r rhaglen ond hefyd i’r merched oedd ar y rhaglen gyda mi, roedd rhannu profiadau a dysgu ganddyn nhw yr ‘run mor werthfawr a’r hyn roeddem yn ddysgu. Byddwn yn annog unrhyw un i fynd amdani a bachu lle ar y rhaglen wych yma!
Buddug Wiliam Owen,
Arweinydd Ymgysylltu Rhanbarthol a Phrosiectau Aml Gogledd Cymru.