320px-prentis-prentisiaethau

Ai prentisiaeth yw'r cam nesaf i chi?

Gwnewch y dewis doeth, dewiswch brentisiaeth yng Nghyngor Gwynedd.

Mae prentisiaeth yn gyfle i chi ddatblygu eich gyrfa drwy weithio gyda phobl brofiadol, derbyn cymwysterau a chael cyflog yr un pryd!

Prosbectws 2024

 

 

Newyddlen Gwanwyn 2024

 

 

Canllawiau gwneud cais 

 

 

Gall unrhyw un wneud cais am brentisiaeth os ydynt yn ateb y gofynion isod:

  • 16+ mlwydd oed

  • Yn gymwys i weithio yng Nghymru

  • Ddim mewn addysg llawn amser yn barod

Mae’r lefel prentisiaeth byddwch yn ei ddewis yn ddibynnol ar eich sgiliau a chymwysterau presennol. Cymerwch olwg ar y tabl isod i weld pa lefelau sydd ar gael!

 

Manylion Prentisiaeth
Teitl Lefel  Yn gyfwerth â 
Hyfforddeiaeth  

Lefel 1

 

TGAU D - G

 

Prentisiaeth Sylfaen

 

Lefel 2

 

TGAU A* - C

 

Prentisiaeth

 

Lefel 3

 

Lefel A

 

Prentisiaeth Uwch

 

Lefel 4 a Lefel 5

 

HNC / HND / Gradd Sylfaen

Prentisiaeth Gradd

Lefel 6 a Lefel 7

Gradd / Gradd Meistr

 

Mae llawer o fuddiannau i’w cael wrth i chi ddilyn llwybr prentisiaeth:

  • Ennill cyflog wrth ddysgu

  • Derbyn cefnogaeth a chymorth profiadol

  • Cwblhau cymwysterau o werth

  • Datblygu llwybrau gyrfa clir

Yn ogystal â hyn mae llawer o fuddiannau i’w cael wrth weithio i Gyngor Gwynedd:

  • Gweithio mewn awyrgylch Gymreig.

  • Bydd cyfle i chi fod yn rhan o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

  • Bydd gennych chi 24.5 diwrnod o wyliau, yn ogystal â 8 diwrnod o wyliau banc / gwyliau cyhoeddus.

  • Byddwch chi’n rhan o'n Cynllun Oriau Ystwyth.

  • Byddwch chi’n elwa o ystod eang o gyfleoedd hyfforddi a datblygu mewnol ac allanol.

Bydd y prentis yn derbyn cyflog sy’n  unol â’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Cyflog prentis

Prentis (oed) Cyflog y flwyddynCyflog Net/Mis
 O dan 18

£14,566.06

£1,028.95

 18 - 20

£19,292.80

£1,382.65

 21+

 £23,556.51

£1,839.25

 

Beth ydi’r gofynion sylfaenol?

  • Bydd gofynion sylfaenol y swydd yn ddibynnol ar lefel y Brentisiaeth. Bydd rhain wedi eu hamlinellu yn Manylion Person y Swydd.

Oes yna gyfyngiad o ran oedran?

  • Nac oes, ond mae pobl ifanc rhwng 16 i 19 oed yn cael blaenoriaeth.

Beth fydd hyd y brentisiaeth?

  • Mae prentisiaeth yn cymryd rhwng 12 a 36 mis i gwblhau, yn dibynnu ar y gofynion penodol y cymwysterau a lleoliadau.

Ble fydd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal?

  • Cewch eich rhyddhau o’r gwaith, i astudio mewn Coleg neu Brifysgol neu byddwch yn dilyn rhaglen dysgu o bell, os yw'r ddarpariaeth yn y gweithle yn unig.

Fel prentis, pa gymhwyster fydda i yn ei ddilyn?

  • Bydd hyn yn dibynnu ar y brentisiaeth byddech chi’n ei ddewis. Mae fframweithiau Prentisiaethau yn cynnwys cymwysterau o bob lefel.

 

Cofrestrwch eich diddordeb 

Beth bynnag yw eich maes diddordeb, cofrestrwch efo ni i fod ar ein rhestr e-bost i dderbyn mwy o wybodaeth am ddatblygiadau neu gyfleoedd yn y dyfodol.

Cofrestru

 

 

Cysylltwch â ni

Os oes gennych ymholiad, e-bostiwch prentisiaethau@gwynedd.llyw.cymru

Neu, am sgwrs anffurfiol, ffoniwch 01286 679 599.

A chofiwch ein dilyn ni ar Instagram!