Archebu bin / offer newydd

Ar hyn o bryd mae'r amser aros am eitemau yn hyd at 50 diwrnod gwaith.

Tra rydych yn aros, os nad oes gennych fin gwyrdd, gallwch roi hyd at 3 bag bin du allan bob 3 wythnos a gallwch roi deunyddiau ailgylchu mewn bocs neu sach hesian.

Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.

Cofiwch! Gallwch archebu bagiau bin bwyd drwy adael nodyn ar eich bin ailgylchu bwyd.

Close


Defnyddiwch y ffurflen hon er mwyn archebu bin neu offer gwastraff ac ailgylchu newydd

Archebu bin / offer newydd

(bydd angen i chi greu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)

neu ffoniwch 01766 771000.

 

Gallwch archebu:


Cartgylchu 

biniau_glas_200x160

  • 3 bocs glas ar olwynion
  • Bocs top – papur/cerdyn
  • Bocs canol - poteli, potiau, tybiau a hambyrddau plastig, carton a chaniau 

  • Bocs gwaelod – gwydr

 

Bocs glas ailgylchu

Bin_glas_200x160

  • hyd at 4 bocs glas (yn cynnwys caead)
  • hyd at 4 caead newydd (yn lle rhai wedi mynd ar goll/colli/torri)
  • hyd at 4 rhwyd i’w gosod ar ben y bocs (i'w defnyddio yn hytrach na chaead ar gyfer y bocs os ydych yn cael problemau e.e. bod y caead yn cael ei golli neu ei dorri yn aml)


Bin brown bwyd (22 litr)

Bin_brown_canolig_200x160

  • hyd at 2 fin bwyd


Cadi cegin

Bin_brown_bach_200x160

  • Cadi cegin (5 litr) er mwyn dal gwastraff bwyd yn y gegin.
  • Cyflenwad blwyddyn o fagiau gwastraff bwyd er mwyn cadw’r cadi cegin yn lân. Bydd angen gwagio cynnwys y cadi cegin i mewn i’r bin bwyd 22 litr er mwyn ei gasglu. Ni ddylech roi’r cadi cegin allan i’w gasglu. 
  • I gael mwy o fagiau gwastraff bwyd clymwch y label oren sydd tu fewn i'r rolyn bagiau o gwmpas handlen eich bin gwastraff bwyd pan fyddwch yn ei roi allan i'w wagio. (Mae'r label oren yng nghanol y rolyn bagiau a byddwch yn ei weld pan fydd tua 10 bag ar ôl yn y rolyn).
  • Mae cyflenwad o'r bagiau ar gael yn eich Siop Gwynedd lleol hefyd.



Bin brown gwastraff gardd (neu fagiau gwastraff gardd)

Bin_brown_mawr_200x160

  • Gall pob cartref dderbyn:
    • Hyd at 4 bin brown mawr – gwastraff gardd (240 litr)
      Neu
    • cyflenwad blwyddyn o fagiau gwastraff gardd

NODER! Bellach mae'n rhaid talu ffi blynyddol am gasgliad gwastraff gardd (bin brown). Rhagor o wybodaeth ac archebu casgliad.

 

Bin olwyn gwyrdd (neu fagiau bin du)

Bin_gwyrdd_200x160

  • Gall pob cartref dderbyn UN o'r canlynol:
    • 1 bin gwyrdd mawr (240 litr) neu
    • 1 bin gwyrdd bach (140 litr)
  • Mae rhai cartrefi sydd heb fin olwyn gwyrdd yn gymwys i dderbyn cyflenwad o fagiau bin du. I archebu, ffoniwch 01766 771000.
  • Mae’n bosib archebu sach hesian er mwyn gwarchod y bagiau bin du rhag cael eu rhwygo gan anifeiliaid (dim ond os ydych yn defnyddio bagiau bin du y cewch archebu sach hesian)
  • Os oes mwy na 7 person yn byw mewn eiddo, mae’n bosib gwneud cais am fin gwyrdd maint masnachol (360 litr): Cysylltwch â ni.


Symud tŷ?

Os ydych yn symud tŷ, gadewch y biniau/bocsys yn y tŷ.

Os nad oes biniau/bocsys yn y tŷ newydd, defnyddiwch y ffurflen Archebu bin / offer newydd (bydd angen i chi greu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod) neu ffoniwch 01766 771000 i wneud cais am rai newydd.

 

Am wybodaeth am pa eitemau y gellir eu rhoi ym mha fin, a gweld yr amserlen casglu, ewch i’r tudalennau gwybodaeth biniau ac ailgylchu.