Canolfannau ailgylchu

Dim ond gwastraff o gartrefi rydym yn ei dderbyn. Nid fyddwn yn derbyn gwastraff gan unrhyw fusnes, siop, sefydliad, siop elusen, clwb, cymdeithas, digwyddiad na landlord sydd adnewyddu eiddo rhent.


Archebu slot canolfan ailgylchu

RHAID ARCHEBU SLOT amser er mwyn mynd i ganolfan ailgylchu. Os na fyddwch wedi archebu slot, ni fydd yn bosib cael mynediad i ganolfan.

Archebu slot canolfan ailgylchu

Gweld telerau ac amodau

 

I sicrhau diogelwch pawb gofynnwn i chi dalu sylw i’r isod:

  • Mae CEIR a THRELARS dim mwy na 2.4m x 1.2m (8’ x 4’), yn cael mynd i’r Canolfannau. DIM trelars mwy na hynny.

  • Er eich bod yn archebu slot, mae’n bosib bydd ciwiau ar adegau. Rydym yn gofyn i bobl fod yn amyneddgar ac yn barchus wrth y staff.
  • Os oes gennych nifer o eitemau, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd mewn da bryd. Rhaid dadlwytho eich cerbyd cyn diwedd y slot amser, neu mae’n bosib y bydd staff y ganolfan ailgylchu yn gofyn i chi adael
  • Gweld telerau ac amodau llawn.

 

Canslo slot

Os ydych angen canslo y slot, plîs rhowch wybod mor fuan â phosib er mwyn i ni gynnig y slot i rhywun arall. Er mwyn canslo, gyrrwch e-bost i: fynghyfrif@gwynedd.llyw.cymru

Neu cliciwch ar y linc ‘Sgwrs fyw’ (linc ar y dudalen yma pan mae’r gwasanaeth ar gael) neu ffoniwch 01766 771000 i ganslo.

 

Lleoliad ac amser agor

Ddim yn gwybod lle mae'r ganolfan agosaf i chi? Ewch i Lle dwi'n byw i weld.

 

 

Gwybodaeth bellach

 

Cysylltu â ni