Treial bagiau ailgylchu
Mae treial bagiau ailgylchu yn cael ei gynnal mewn rhannau o Wynedd. Pwrpas y treial ydi gwella'r trefniadau ailgylchu a'i gwneud yn haws i bawb gyfrannu at amgylchedd lanach.
Ni fydd newid i'ch diwrnod casglu yn ystod y treial. Ond, rydym yn gofyn i chi gyflwyno eich ailgylchu mewn ffordd wahanol.
Dyddiad y treial
Rhwng dydd Llun, 24 Mawrth a dydd Gwener, 4 Gorffennaf 2025.
Beth fydd angen i fi ei wneud yn ystod y treial?
Bydd pob cartref sy'n rhan o'r treial yn derbyn pecyn cyn i'r treial ddechrau. Bydd yn cynnwys dau fag ailgylchu newydd ac un bocs glas ailgylchu.
Yn ystod y treial, defnyddiwch y bagiau a'r bocs newydd i roi eich ailgylchu allan i'w gasglu os gwelwch yn dda:
- Bag Ailgylchu Coch: Ar gyfer plastig, caniau, metelau a chartonau Tetra Pak
- Bag Ailgylchu Oren: Ar gyfer papur a chardfwrdd
- Bocs Ailgylchu Glas: Ar gyfer gwydr.
Cofiwch!
- Rhowch eich ailgylchu allan ar eich diwrnod casglu arferol.
- Ni fydd newid i gasgliadau bin brown bwyd, bin olwyn gwyrdd, gwastraff gardd na casgliadau clytiau/clinigol.
- Gofynnwn i chi beidio â defnyddio'r cartgylchu yn ystod cyfnod y treial.
- Cofiwch ddefnyddio'n felcro sydd ar y bag i'w gau, a rhowch y caead ar bocs glas. Bydd hyn stopio'r ailgylchu rhag chwythu i ffwrdd.
- Mae croeso i chi ysgrifennu eich cyfeiriad ar y bag a'r bocs er mwyn eich helpu i'w hadnabod pan fyddwch yn dod â nhw yn ôl i mewn.
Cwestiynau a ofynnir yn aml
Mae nifer o gynghorau lleol yng Nghymru eisoes yn defnyddio bagiau a bocs tebyg i’r rhai rydym am eu treialu, ac maent wedi dangos eu bod yn gweithio’n dda.
Mae’r bagiau’n fwy na’r bocsys cartgylchu presennol, ac mae’r deunydd yn fwy hyblyg, sy’n golygu y gallwch roi mwy o eitemau yn y bagiau nag y gellir eu rhoi yn y bocsys presennol.
Mae’r bagiau’n cymryd llai o le na’r cartgylchu ac felly maent yn haws eu storio, a dylai hyn fod yn fuddiol i breswylwyr sy’n byw mewn cartrefi lle mae lle storio’n broblem, fel tai teras a fflatiau.
Mae’r bagiau hefyd yn ysgafnach, ac nid oes fflap ar y bocs newydd, felly dylai hyn ei gwneud yn haws i griwiau godi a gwagio eu cynnwys ar ein cerbydau casglu.
Bydd y bagiau a’r bocs yn rhatach i’w cyfnewid na’r cartgylchu, pan fyddan nhw’n mynd ar goll neu’n torri.
Mae tua 2,000 o gartrefi yng Ngwynedd wedi eu dewis i fod yn rhan yn y treial.
Mae’r cyfeiriadau sydd wedi eu dewis mewn ardaloedd gwahanol er mwyn i gael dealltwriaeth dda a theg o sut byddai'r drefn newydd yn effeithio ar gartrefi mewn ardaloedd trefol, gwledig ac ati.
Os ydi eich cartref chi i wedi ei ddewis gymryd rhan yn y treial, byddwn yn danfon dau fag ailgylchu ac un bocs ailgylchu newydd, ynghyd â llythyr a thaflen.
Bydd pob cartref sydd yn rhan o'r treial wedi derbyn y pecyn.
Mewn 2,000 o gyfeiriadau mae'r treial yn cael ei gynnal felly os nad ydych wedi derbyn pecyn nid yw eich cyfeiriad yn rhan o'r treial y tro yma.
Os ydych yn teimlo eich bod angen mwy o fagiau er mwyn dal eich ailgylchu gallwch archebu mwy ar-lein:
Archebu offer ailgylchu newydd
(bydd angen i chi greu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)
neu ffoniwch 01766 771000.
Cofiwch arbed lle yn eich bagiau drwy wasgu eich eitemau metel, plastig a chartonau’n ofalus pan fo’n bosibl, a thorri cardfwrdd, i sicrhau eu bod yn ffitio.
Os ydi eich bagiau neu focsys ailgylchu yn cael ei difrodi neu yn mynd ar goll, gallwch archebu rhai newydd:
Archebu offer ailgylchu newydd
(bydd angen i chi greu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)
neu ffoniwch 01766 771000.
Er bod y bagiau newydd wedi’u pwyso ac yn annhebygol o chwythu i ffwrdd mewn gwyntoedd cryf, efallai y byddwch yn dewis eu gosod rhwng eich bin gwastraff bwyd brown a’ch bocs glas ar gyfer gwydr ar eich diwrnod casglu.
Cofiwch hefyd gau’r fflapiau a'r velcro ar eich bagiau, a chau’r caead ar eich bocs, i atal eich ailgylchu rhag dianc.
Os ydi eich bagiau neu focsys ailgylchu yn cael ei difrodi neu yn mynd ar goll, gallwch archebu rhai newydd:
Archebu offer ailgylchu newydd
(bydd angen i chi greu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)
neu ffoniwch 01766 771000.
Os na chafodd eich bag/bocs ei wagio ar eich diwrnod casglu rhowch wybod i ni.
Rhoi gwybod am sach/ bocs heb ei wagio
(Rhaid creu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)
Gallwch hefyd gysylltu drwy ffonio 01766 771000.
Mae’n bwysig eich bod yn rhoi’r eitemau cywir yn y cynwysyddion cywir, ac nad yw eich cynwysyddion ailgylchu’n cynnwys deunyddiau na ellir eu hailgylchu. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall unrhyw un wneud camgymeriad.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn cofiwch gysylltu â ni:
Ymholiad ailgylchu
Neu ffoniwch 01766 771000
Os byddwch yn sylwi eich bod wedi rhoi rhywbeth yn y cynhwysydd anghywir ar ôl i ni gasglu eich ailgylchu, peidiwch â phoeni – ond ceisiwch ei wneud yn iawn y tro nesaf.
Daliwch eich gafael ar eich cartgylchu tra bydd y treial yn cael ei gynnal, ond peidiwch â’i ddefnyddio.
Ar ddiwedd y treial gallwch ddewis unai cario ymlaen i ddefnyddio'r bagiau ailgylchu neu fynd yn ôl i ddefnyddio'r cartgylchu presennol.
Daliwch eich gafael ar y ddau set o gynwysyddion nes byddwn wedi gwerthuso’r treial a chadarnhau pa gynwysyddion i’w defnyddio yn y dyfodol.
Byddwn yn cynnal arolwg er mwyn gweld eich barn chi am y bagiau ailgylchu. Byddwn hefyd yn gofyn am adborth gan ein criwiau casglu. Byddwn yn gweithio gydag arbenigwyr i ddadansoddi’r canlyniadau ac i ystyried y camau nesaf er mwyn ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i bawb ailgylchu gymaint o’u gwastraff â phosib.
Bydd arolwg, ble bydd cyfle i chi ennill cerdyn rhodd gwerth £50, ar gael yma tuag at ddiwedd cyfnod y treial.
Mwy o wybodaeth
Os ydych angen mwy o wybodaeth am y treial, neu os ydych eisiau cyngor ynglŷn ag ailgylchu eich gwastraff, cysylltwch â ni:
Ymholiad ailgylchu
Neu ffoniwch 01766 771000