Cronfa Rhandiroedd
Grant Cyfalaf Rhandiroedd
Rydym yn gwahodd ceisiadau am arian grant tuag at gynlluniau rhandiroedd sy’n cyflawni’r blaenoriaeth o;
- greu rhandir(oedd) newydd
neu
- Dod â hen randir(oedd) yn ôl i ddefnydd
Bydd hefyd bosibl gwneud cais am arian tuag at un neu fwy o’r canlynol:
- Gwella mynediad i randiroedd
- Gwella cyfleusterau a gwasanaethau ar randiroedd
- Gwella diogelwch safle randiroedd
- Gwella ailgylchu ar randiroedd
- Gwella bio-amrywiaeth ar randiroedd
- Hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o randiroedd.
Gall eitemau gwariant cymwys gynnwys y canlynol (ond nid yw hwn yn rhestr cynhwysfawr):
- Cyfalaf - deunyddiau adeiladu / ffensys / giatiau / arwyddion
- Cyfalaf - offer mawr megis siediau, tŷ gwydr, polytunnels, storfeydd, casglwr dŵr
- Cyfalaf - gwaith adeiladu a paratoi tir
Faint?
Mi rydym yn derbyn ceisiadau hyd at £5,000
Pwy?
Gwahoddir geisiadau gan grwpiau cymunedol, elusennau, cynghorau cymuned a thref, a mudiadau gwirfoddol.
Sut i wneud cais:
Cwblhewch y ffurflen isod ac ei ddanfon gan gynnwys yr HOLL ddogfennau angenrheidiol perthnasol i: Cistgwynedd@gwynedd.llyw.cymru
Ffurflen gais
Mae Swyddogion Cefnogi Cymunedau Cyngor Gwynedd ar gael i gynnig arweiniad i chi.
Dalgylch Bro Lleu/Nantlle a Bro Peris
Dalgylch Caernarfon, Bangor a Bro Ogwen
Dalgylch Penllŷn a Pwllheli
Bro Ardudwy, Dolgellau a Dysynni
Dalgylch Bro Ffestiniog, Penrhyndeudraeth a Porthmadog
Dalgylch Bala Penllyn, Dinas Mawddwy a Rhydymain
Cysylltu â ni
Gallwch gysylltu a Swyddog Cist Gwynedd: