Cronfa Cynlluniau Bwyd
Canllawiau
Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn grantiau Cyfalaf a Refeniw ar gyfer cefnogi cynlluniau bwyd a bwydo, gyda’r nod i gefnogi y nifer gynyddol o bobl sy’n wynebu tlodi bwyd.
Beth?
Rydym yn gwahodd ceisiadau am arian grant tuag at gynlluniau sy’n cyflawni un neu fwy o’r canlynol:
- Cefnogi Banciau Bwyd
- Cynnal Cynlluniau Bwydo i grwpiau bregus o’r boblogaeth (prydau poeth, pryd ar glyd, clybiau bwyta, clybiau swper)
- Cynnal Cynlluniau darparu pecynnau bwyd i gefnogi pob fregus.
Gall eitemau gwariant cymwys gynnwys y canlynol (ond nid yw hwn yn rhestr cynhwysfawr):
- Cyfalaf - Pryniant offer ar gyfer paratoi, storio a dosbarthu bwyd
- Cyfalaf - Pryniant offer i gefnogi datblygu mentrau tyfu a dosbarthu bwyd.
- Cyfalaf - Offer TG i hwyluso systemau cyfeirio i asiantaethau a cyswllt gyda defnyddwyr.
- Refeniw - Costau rhedeg caffis cymunedol, clybiau cinio / swper, clybiau bwydo.
- Refeniw - Costau rhedeg, cydlynu a rheoli cynlluniau (Uchafswm o 20% o gyfanswm grant refeniw)
- Refeniw - Costau hyfforddiant i wirfoddolwyr mentrau bwyd
- Refeniw - Cyfraniad tuag at helpu cydleoli mentrau bwyd gyda gwasanaethu cymorth eraill / hybiau cymunedol.
Faint?
Uchafswm grant sydd ar gael:
- Cyfalaf - Hyd at £5,000
- Refeniw - Hyd at £4,000
Pwy?
Gwahoddir geisiadau gan grwpiau cymunedol, elusennau, cynghorau cymuned a thref, a mudiadau gwirfoddol.
Pryd?
Mae'r grant yn cael ei ddyfarnu yn rheolaidd, ond bydd y 'rowndiau' ymgeisio fydd ar gael yn dibynnu ar gyllideb yr gronfa.
Isod gweler dyddiadau cau y ‘rowndiau’ ymgeisio:
- Rownd 1 - Ebrill 25ain, 2025
- Rownd 2 - Mehefin 25ain, 2025
- Rownd 3 - Awst 25ain, 2025
- Rownd 4 - Hydref 25ain, 2025
- Rownd 5 – Rhagfyr 25ain, 2025
Sut i ymgeisio?
Dylai ymgeiswyr gyflwyno’r ffurflen gais a’r holl wybodaeth angenrheidiol i e-bost; cistgwynedd@gwynedd.llyw.cymru
Ffurflen Gais- Cynlluniau Bwyd
Mae swyddogion cefnogi cymunedau ar gael i gynnig arweiniad i chi.
Dalgylch Bro Lleu/Nantlle a Bro Peris
Dalgylch Caernarfon, Bangor a Bro Ogwen
Dalgylch Pwllheli a Penllŷn
Bro Dysynni, Ardudwy a Dolgellau
Dalgylch Bro Ffestiniog, Porthmadog a Penrhyndeudraeth
Bala Penllyn, Rhydymain a Dinas Mawddwy
Mwy o wybodaeth
I glywed mwy, cysylltwch â Swyddog Cist Gwynedd: