Cronfa Diwyllesiant

Mae Cyngor Gwynedd yn falch o wahodd datganiadau o ddiddordeb gan sefydliadau nid-er-elw (ond sy’n cynnwys mentrau cymdeithasol â threfnwyr digwyddiadau) i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb i gefnogi prosiectau a gweithgareddau drwy Gronfa Diwyllesiant. 

Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 12.00 y prynhawn 23 Mai 2025.

Beth ydi pwrpas y Gronfa Diwyllesiant?

“Cefnogi budd a lles i gymunedau, amgylchedd a busnesau Gwynedd trwy weithgareddau diwylliannol (celfyddydau a threftadaeth), hamdden (chwaraeon, actif, iechyd a lles) ac economi ymweld cynaliadwy (digwyddiadau)."

Yn ategol ir uchod bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i:

  • Gefnogi gweithgareddau newydd neu allu sefydliadau i ddarparu gwasanaethau newydd / neu ddenu cynulleidfa a buddiolwyr newydd. 
  • Gefnogi gweithgareddau ar draws Gwynedd. Bydd ystyriaeth yn cael ei wneud i sicrhau bod y gronfa yn cyrraedd Gwynedd gyfan.

 

Beth sydd ar gael?

Mae'r Gronfa yn cynnig grantiau cyfalaf a/neu refeniw rhwng £1,000 a £7,000.00.

Mae'n gallu ariannu prosiectau / digwyddiadau sydd yn digwydd rhwng Ebrill 1 2025 a Ionawr 31 2026.

Mwy o wybodaeth

Disgwylir i brosiectau;

  • Gefnogi pobl Gwynedd i gael mynediad at, mwynhau a phrofi’r celfyddydau. 
  • Wella ymgysylltiad cymunedol i bawb gyda’n treftadaeth a’n diwylliant gyfoethog. 
  • Greu cyfleoedd ychwanegol/newydd i fod yn gorfforol actif mewn chwaraeon neu weithgareddau ffitrwydd a llesiant.
  • Cyfrannu at wella lles pobl Gwynedd - prosiectau actif, celfyddydol neu diwylliannol. 
  • Gefnogi digwyddiadau newydd neu gyfrannu at gynaladwyedd digwyddiad sy’n bodoli yn barod.
  • Cyfrannu at gynaladwyedd mudiadau sydd yn darparu y cyfleoedd uchod yn y meysydd uchod.
  • Cyfrannu at weithgareddau newydd neu allu sefydliadau i ddarparu gwasanaethau newydd / neu ddenu cynulleidfa a buddiolwyr newydd.

Bydd yn rhaid i bob gweithgaredd fod wedi cwblhau erbyn Ionawr 31 2026.

 

  • Pryniant offer e.e. offer chwaraeon, offer i gefnogi gweithgareddau diwylliannol neu gynnal digwyddiadau
  • Cynnal gweithgareddau/brosiectau newydd  
  • Costau swyddi newydd 
  • Gweithgareddau e.e. marchnata, costau ymgynghori, datblygu rhaglen neu gynulleidfa newydd
  • Cynnal digwyddiadau / dathliadau 

Sylwer mae enghreifftiau yn unig yw’r rhestr uchod, ac rydym yn eich hannog i gael golwg manwl ar y tabl ymyrraeth ac allbynnau ar y ddogfen canllaw manwl, sydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y mathau o brosiectau gall y gronfa hon ariannu.

  • Costau cynnal a chadw e.e. offer ac adeiladau 
  • Costau cynnal gweithgareddau/prosiectau sydd eisoes yn bodoli  
  • Costau swyddi sydd eisoes yn bodoli 
  • Gweithgareddau/prosiectau sy’n cael eu cynnal y tu allan i ffiniau Gwynedd 
  • Costau craidd  sefydliadau / mudiadau

Sylwer mae enghreifftiau yn unig yw’r rhestr uchod, ac rydym yn eich hannog i gael golwg manwl ar y tabl ymyrraeth ac allbynnau ar y ddogfen canllaw manwl, sydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y mathau o brosiectau gall y gronfa hon ariannu.

Bydd y broses ddethol prosiectau i’w cefnogi yn gystadleuol a disgwylir i ymgeiswyr gwblhau pob cwestiwn gan ddilyn y canllawiau manwl. 

Ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried am gefnogaeth y gronfa. 

Bydd panel yn sgorio ceisiadau ar sail yr hyn sydd wedi ei gyflwyno yn y ffurflen gais.  


Gwneud cais

Dyddiad cau: 12:00 prynhawn Dydd Gwener 23 Mai 2025.

Byddwn yn ceisio anfon llythyrau cynnig i geisiadau llwyddiannus cyn gynted a phosib ar ôl wythnos y 26 Mai 2025.

Bydd yn rhaid i bob gweithgaredd fod wedi cwblhau erbyn Ionawr 31 2026.

Canllawiau manwl (Gwybodaeth pwysig sydd yn cyd-fynd gyda'r ffurflen gais)

Ffurflen gais

Cyflwyno'r cais 

Mae’n bwysig eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau yn ofalus ac yn sicrhau bod eich cynllun yn ymateb i’r canllawiau a meini prawf. 

Unwaith y byddwch yn barod i gyflwyno eich cais, gallwch ei gyflwyno dwy e-bostio:
cronfadiwyllesiant@gwynedd.llyw.cymru 

 

Cyn cyflwyno eich cais, rydym yn eich annog i gysylltu â’ch Swyddog Cefnogi Cymunedau Lleol ac/neu swyddog yn y maes penodol yr ydych yn dymuno ymgeisio ynddo i drafod eich syniadau ac i dderbyn cymorth pellach i benderfynu beth sy’n gymwys ar gyfer eich cynllun.

Dalgylch Bro Lleu/Nantlle a Bro Peris  

Dalgylch Caernarfon, Bangor a Bro Ogwen 

Dalgylch Penllŷn a Pwllheli    

Dalgylch Bro Ardudwy, Dolgellau a Dysynni,  

Dalgylch Bro Ffestiniog, Penrhyndeudraeth a Porthmadog  

Dalgylch Bala Penllyn, Dinas Mawddwy a Rhydymain  

Digwyddiadau

Byw’n Iach ac Actif

Diwylliant, Celfyddydau a Threftadaeth

 

Cysylltu â ni

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni: