Cronfa LleCHI LleNI
Mae Cyngor Gwynedd yn gweinyddu'r gronfa hon ar gyfer grwpiau cymunedol a gwirfoddol yng Ngwynedd. Gan adeiladu ar y momentwm o fewn ein cymunedau chwarelyddol yn dilyn dynodiad Safle Treftadaeth y Byd ar gyfer Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, prif nod y grant yw:
- cefnogi prosiectau cyfalaf a refeniw a fydd yn gwella ymgysylltiad cymunedol i bawb
- creu balchder lleol yn nhreftadaeth y tirweddau llechi
- gwella lles a datblygu sgiliau.
Pwy sy’n cael gwneud cais am y grant?
Gall grwpiau cymunedol sydd â phrosiect sy'n darparu ar gyfer trigolion Gwynedd wneud cais am gymorth drwy Grant Cymunedol LleCHI LleNI.
Er y gall unigolion a grwpiau anffurfiol nad ydynt yn bodloni’r meini prawf isod wneud cais, bydd angen iddynt wneud hynny mewn partneriaeth â grŵp neu sefydliad sy’n bodloni’r meini prawf. Mae hyn oherwydd ei fod yn helpu i ddangos cefnogaeth o fewn y gymuned i'r cynnig ac er mwyn i Gyngor Gwynedd allu cynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy ar gyfer yr arian a ddyrannwyd.
Tra gall Cynghorau Cymuned neu Dref wneud cais bydd angen iddynt ddangos bod y gweithgaredd arfaethedig yn newydd ac nad yw’n rhan o’u gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.
Manylion pellach:
Faint o arian sydd ar gael yn 2025/26?
Gallwch wneud cais am grant hyd at £10,000 (cyfalaf neu refeniw).
Sut mae gwneud cais?
Rydym yn awgrymu’n gryf eich bod yn trafod gyda Rheolwr Prosiect LleCHI LleNI cyn cyflwyno eich cais:
Manylion cyswllt Rheolwr Prosiect:
Lucy Thomas;
E-bost: llechi@gwynedd.llyw.cymru
Rhif cyswllt: 07785 469867
Ffurflenni cais
Ffurflen gais Grant Cymunedol LleCHI LleNI - grantiau hyd at £1,000Ffurflen gais Gais Cymunedol LleCHI LleNI - grantiau dros £1,000
Dychwelwch y ffurflen gais (yn ddelfrydol drwy e-bost) at:
Neu gyrrwch gopi papur at: Swyddog Cist Gwynedd, Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH
Erbyn pryd mae angen cyflwyno’r cais?
Mae'r grant yn cael ei ddyfarnu yn chwarterol, ond bydd y 'rowndiau' ymgeisio fydd ar gael yn dibynnu ar faint o arian fydd ar gael bob tro.
Sicrhewch fod y ffurflen gais wedi ei chwblhau a bod yr holl ddogfennau cefnogol a thechnegol wedi eu hanfon (yn ddelfrydol dros e-bost).
Dyddiadau cau ar gyfer 2025/26:
- 21 Mawrth 2025
- 20 Mehefin 2025
- 30 Medi 2025
- 9 Ionawr 2026
Am wybodaeth pellach, ewch i: