Cynllun sgorio hylendid bwyd

Fe gyflwynwyd Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) yn 2013 drwy fabwysiadu Deddf Sgorio Hylendid Bwyd. Mae’r ddeddf yn gorfodi busnes bwyd i arddangos eu sgôr hylendid bwyd mewn man priodol ac i gynghori unrhyw gwsmer o’u sgôr os oes ymholiad,

Mae’r cynllun yn cael ei redeg gan Cyngor Gwynedd ac mae’n berthnasol i’r canlynol

  • Tai bwyta
  • Tai tafarn
  • Caffis
  • Siopau prydau parod
  • Gwestai
  • Archfarchnadoedd a siopau bwyd eraill.

Fe fydd pob busnes yn derbyn eu sgôr hylendid bwyd yn dilyn archwiliad gan un o swyddogion diogelwch bwyd Cyngor Gwynedd.  Mae mwy o wybodaeth i’w gael ar wefan Yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

 

Beth yn union sydd yn digwydd?

Yn ystod yr archwiliad bydd y swyddog yn canolbwyntio ar:

  • Ymarferion hylendid wrth ymdrin â bwyd
  • Cyflwr yr adeilad
  • Sut mae’r busnes yn cael ei reoli

 

Bydd busnes yn derbyn sgôr hylendid bwyd, sydd yn amrywio o ‘0’ – Angen gwella ar frys  i’r sgôr uchaf ‘5’ – Da iawn, yn ddibynnol ar faint mae’r busnes yn cydymffurfio.

 

Darganfod Sgôr Hylendid Bwyd

Bydd sgôr hylendid pob sefydliad yn cael ei gyhoeddi ar wefan Yr Asiantaeth Safonau Bwyd.   

Chwilio am sgôr hylendid bwyd

 

Deddfau perthnasol

Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013