Ysbwriel sy'n gysylltiedig â chyffuriau
Ysbwriel sy'n gysylltiedig â chyffuriau yw'r term a ddefnyddir am y gwastraff y mae nifer fechan o ddefnyddwyr cyffuriau'n ei adael yn dilyn chwistrellu'r cyffuriau. Mae fel arfer yn cynnwys nodwyddau a chwistrellau. Er nad yw'n broblem enfawr yng Ngwynedd mae sicrhau amgylchedd ddiogel i drigolion y sir yn un o flaenoriaethau Cyngor Gwynedd.
Beth i'w wneud os fyddwch yn dod i hyd i ysbwriel sy'n gysylltiedig â chyffuriau?
Adrodd am ysbwriel sy'n gysylltiedig â chyffuriau arlein
- PEIDIWCH â chyffwrdd yr offer ar unrhyw gyfrif
- PEIDIWCH â cheisio codi na symud nodwyddau na chwistrellau
- FFONIWCH Gyngor Gwynedd ar unwaith ar 01766 771000. Bydd y Cyngor naill ai'n casglu'r ysbwriel neu'n dweud wrthych beth ddylech ei wneud nesaf.
Beth yw'r peryglon sy'n deillio o ysbwriel sy'n gysylltiedig â chyffuriau?
- Gall ysbwriel sy'n gysylltiedig â chyffuriau gludo heintiau gan gynnwys hepatitis a HIV
- Mae gwrthrychau miniog sydd heb eu gorchuddio hefyd yn creu perygl o anaf i bobl ac i anifeiliaid.
Beth ddylech ei wneud os cewch eich anafu gan nodwydd?
- PEIDIWCH â chynhyrfu
- PEIDIWCH â sugno'r clwyf
- Helpwch y clwyf i waedu
- Rhowch y clwyf dan tap dŵr oer a sebon am 2 funud
- Gorchuddiwch y clwyf â phlaster neu rwymyn
- Ceisiwch gymorth meddygol ar unwaith
- Cofiwch fod y perygl o gael eich heintio gan nodwydd sydd wedi cael ei gadael yn isel, ond mae angen i chi weld meddyg.
Caiff ysbwriel sy'n gysylltiedig â chyffuriau ei achosi gan leiafrif fechan o bobl.
Cyfnewid nodwyddau
Mae cynlluniau cyfnewid nodwyddau yn cael ei ddarparu gan fferyllfeydd yn bennaf, neu gan wasanaethau sydd yn darparu triniaeth i rai sydd gyda phroblemau camddefnyddio cyffuriau.
Os yw’r gwasanaeth ar gael mae’r arwydd isod i'w weld yn y ffenestr:
Os ydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth cyfnewid mae’n holl bwysig eich bod yn dychwelyd y nodwyddau/ cyfarpar.
Cymorth a chefnogaeth
Os ydych yn dioddef o broblemau alcohol neu gyffuriau mae cyngor a chefnogaeth ar gael i chi.
Cysylltwch a llinell gymorth DAN 24/7 er mwyn cael gwybodaeth ynglŷn â'r gwasanaethau lleol sydd ar gael i blant a phobl ifanc ac i oedolion sydd yn dioddef o broblemau alcohol a chyffuriau. Mae gwasanaethau ar gael ar gyfer teuluoedd a gofalwyr hefyd a gwybodaeth am grwpiau cefnogi.
Rhif ffôn DAN 24/7: 0808 808 2234
Gallwch hefyd fynd i gwefan Alcohol a Chyffuriau Cymru i chwilio am wasanaethau yng Ngwynedd.