Gwrychoedd uchel

Rydym yn annog pawb i reoli eu gwrychoedd a’u coed yn yr un ffordd ag y byddech chi'n disgwyl i’ch cymdogion ei wneud. Mae’r enghreifftiau canlynol yn cael eu hystyried yn wrychoedd uchel:  

  • gwrych dros 2 fedr o uchder
  • gwrych sy'n cysgodi golau dydd o eiddo / gardd gyfagos  
  • y rhan fwyaf o’r gwrych o dan sylw yn llinell o ddwy neu fwy o goed neu wrych bytholwyrdd neu rannol fytholwyrdd  


Cwyno am wrych uchel

Cyngor Gwynedd sy'n ymdrin â phob cwyn am wrych uchel yng Ngwynedd, gan gynnwys ardal Parc Cenedlaethol Eryri.

Dim ond pan fo pob ymgais arall i ddatrys y broblem wedi methu y dylid cwyno wrth y Cyngor.

Y cam cyntaf yw trafod y sefyllfa gyda’ch cymydog. Dylech gadw cofnod o bob cysylltiad a gohebiaeth rhyngoch chi a’ch cymydog ynglŷn â’r mater. Os ydych wedi methu â datrys yr  anghydfod gyda’ch cymydog gallwch gyflwyno cwyn i’r Cyngor.

Lawrlwythwch y ffurflen isod, ei chwblhau a'i dychwelyd i'r cyfeiriad sydd wedi ei nodi ar y ffurflen ei hun gyda'r ffi, neu ffoniwch 01766 771000.


Ffi

Wrth gyflwyno cwyn am wrych uchel byddwch angen anfon siec am £320 yn daladwy i Cyngor Gwynedd. Ni fydd eich cwyn yn cael ei hystyried nes bod y ffi wedi ei dalu. Nid yw’r ffi hwn yn ad-daladwy.


Camau y bydd y Cyngor yn eu cymryd

Bydd y Cyngor yn penderfynu a yw'n deg credu bod y gwrych yn cael effaith negyddol ar eich mwynhad chi o’ch eiddo neu’ch gardd. Os felly, bydd y Cyngor yn ystyried pa gamau i’w cymryd er mwyn datrys yr anghydfod a rhwystro’r un broblem rhag codi eto.

Os bydd y Cyngor yn penderfynu bod angen gweithredu, bydd rhybudd ffurfiol yn cael ei roi i’r person sy'n gyfrifol am y gwrych. Bydd hwn yn gosod allan:

  • pa waith ddylid ei wneud i’r gwrych sy’n broblem
  • pa waith ataliol sydd ei angen i wneud yn siŵr ei bod yn cael ei chynnal ar uchder rhesymol yn y dyfodol
  • y cosbau na chydymffurfir ag amodau’r rhybudd.

Bydd peidio â chydymffurfio gyda’r rhybudd ffurfiol yn drosedd a bydd y person yn cael ei erlyn gan lys barn. 


Apeliadau

Mae gan y sawl sy’n cwyno a pherchennog y gwrych hawl i apelio i'r Arolygiaeth Cynllunio yn erbyn penderfyniad y Cyngor. Bydd rhaid gwneud hyn o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad y gwnaeth y Cyngor y penderfyniad. Am ragor o wybodaeth, ewch i:


Mwy o wybodaeth

Daeth Rhan 8 o Ddeddf Ymddygiad Anghymdeithasol 2003 i rym ar Ragfyr 31ain, 2004. Creodd gweithdrefnau i alluogi awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr i ddelio efo cwynion am wrychoedd uchel. 

Na.

Gall y Cyngor wrthod derbyn unrhyw gŵyn a ystyrir yn ddisylwedd neu’n ddi-sail neu os teimlir fod yr achwynydd wedi methu cymryd pob cam rhesymol i ddatrys y mater cyn cynnwys y Cyngor yn y mater.

Mater sifil yw hwn na ddaw o dan y ddeddf hon ac ni fydd Uned Gorfodaeth y Gwasanaeth Cynllunio’n yn delio gyda materion fel hyn.

Gellir.

Dylai’r achwynydd gymryd yr un camau rhesymol (gweler uchod) cyn mynd at y Cyngor.

Nag oes. 

Fodd bynnag, bydd yr uchder sy’n addas i ostwng uchder gwrych yn dibynnu ar amgylchiadau pob achos unigol.

Oes.

Bydd y rhybudd yn cynnwys ‘dyddiad cyhoeddi’ a bydd dyddiad o leiaf 28 diwrnod yn ddiweddarach yn cael ei nodi fel ‘dyddiad gweithredu'.

Bydd hefyd yn nodi ‘dyddiad cydymffurfio’ sef gyfnod rhesymol, sy’n caniatáu i berchennog y gwrych y cyfle i gael hyd i wasanaeth contractwr (os oes angen) ac i wneud y trefniadau i’r gwaith gael ei wneud.

Awgrymir nad oes torri gwrych yn digwydd rhwng Mawrth ac Awst, gan fod aflonyddu ar adar nythu yn mynd yn groes i ddeddfwriaeth gwarchod adar gwyllt.

Dim ond ar ôl y cyfnod ‘dyddiad cydymffurfio’ y gall y Cyngor ddechrau achos o wrthod cydweithredu efo’r rhybudd.

Mae’r Ddeddf yn creu trosedd o fethu cydymffurfio gyda ‘rhybudd adfer’.
Goblygiadau hyn yw os dyfernir perchennog y gwrych yn euog gan Lys Ynadon, gellir ei ddirwyo hyd at £1000.

Gall y llys hefyd benderfynu gorchymyn i berchennog y gwrych wneud y gwaith gofynnol.

Ymhellach, mae hefyd yn drosedd i rwystro swyddog o’r cyngor rhag ymarfer ei bŵer o dan y Ddeddf hon. Mae hyn hefyd yn agored i ddirwy hyd at £1000.

Os yw’n dal i fethu cydymffurfio (heb esgus rhesymol):
Gall gael ei ddirwyo ymhellach ar raddfa o £50 y diwrnod y mae’r gwaith yn dal heb ei gwblhau.

Gall y Cyngor wneud trefniadau i’r gwaith gofynnol gael ei wneud ac yna godi tâl ar berchennog y gwrych am y costau cysylltiedig. Byddid yn cofrestru’r costau hyn fel pridiant tir lleol ac o ganlyniad byddai unrhyw ddarpar brynwr yn prynu’n amodol arnynt.


Cysylltu â ni: