Rhoi sylw ar gais cynllunio
Yn ystod y cyfnod ymgynghori 21 diwrnod gall unrhyw un gyflwyno sylwadau yn gwrthwynebu neu yn cefnogi datblygiad. Bydd pob sylw dilys yn cael ei ystyried wrth benderfynu ar y cais. Dim ond yn ystod y cyfnod 21 diwrnod yma mae'n bosib rhoi sylw ar gais cynllunio.
Sut mae rhoi sylw ar gais cynllunio?
Mae’n bosib rhoi sylwadau:
- Ar-lein: Dilyn a Darganfod ceisiadau cynllunio
Bydd angen i chi chwilio am y cais yr ydych am roi sylw arno yn y system Dilyn a Darganfod, ac yna clicio ar Rhowch sylw ar y cais hwn.
- Llythyr: Anfonwch eich sylwadau drwy lythyr i:
Gwasanaeth Cynllunio, Swyddfa'r Cyngor, Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd. LL53 5AA
Mae’n bosib gweld manylion ceisiadau cynllunio drwy edrych ar y system Dilyn a Darganfod ceisiadau cynllunio ar-lein,
Neu, gallwch fynd draw i: Siop Gwynedd, Ffordd y Cob, Pwllheli (Llun - Gwener, 09:00 - 17:00).
Pa fath o sylwadau fydd yn cael eu hystyried?
Y math mwyaf cyffredin o sylwadau a fydd yn cael eu hystyried fel rhan o'r broses ymgynghori yw:
- a yw'r datblygiad yn cydymffurfio gyda'r polisïau cynllunio a'r Cynllun Datblygu Lleol?
- sylwadau am y dyluniad
- effaith ar dai cyfagos megis colli golau neu breifatrwydd sylweddol
- effaith ar ddiogelwch ar y briffordd
Ni fydd sylwadau am yr isod yn cael eu hystyried: sy’n dod i law am:
- golli golygfa
- ffrae am berchnogaeth tir
- cymeriad yr ymgeisydd
- materion moesol
- colli gwerth eiddo
Beth fydd yn digwydd os bydd gwrthwynebiadau i'm cais yn cael eu cyflwyno i'r Cyngor?
Bydd copi o’r gwrthwynebiad (neu gefnogaeth) yn cael ei roi ar y ffeil gynllunio bapur sydd yn ffeil gyhoeddus ac bydd y swyddog achos yn ystyried y sylwadau o blaid ac/neu yn erbyn wrth asesu’r cais. Nid yw derbyn gwrthwynebiadau i gais o reidrwydd yn golygu y bydd y cais yn cael ei wrthod.