Trefniant y Pwyllgor Cynllunio

Cyflwynir y dudalen hon er rhoddi arweiniad ynglŷn â’r trefniadau gweithredol cyfarfodydd o’r Pwyllgor Cynllunio mewn perthynas â chaniatáu 3ydd parti i siarad. Ei bwriad yw cynnig cymorth i ddeall trefniadaeth y Pwyllgor.

Beth ydi'r Pwyllgor Cynllunio?

Mae 15 aelod ar y Pwyllgor Cynllunio. Cynhelir y cyfarfodydd bob tair wythnos ar rota yn y dair ardal yn unol ag amserlen sydd ar gael gan y Cyngor.

Mae dyletswydd ar yr aelodau i ystyried pob cais cynllunio yn ôl ei haeddiant ei hun yn unol â pholisïau’r Cyngor fel a nodir yn y Cynlluniau Datblygu, Canllawiau Cenedlaethol a Chanllawiau Cynllunio eraill, gan gynnwys Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol. Gallant gymryd i ystyriaeth materion eraill sy’n ystyriaethau materol cynllunio cyn dod i benderfyniad ar y cais.

Arweinir y Pwyllgor gan y Cadeirydd a’i gyfrifoldeb ef/hi fydd sicrhau trefn effeithiol i’r gweithgareddau. Bydd swyddog monitro hefyd yn bresennol er sicrhau bod y penderfyniadau a wneir a’r rhesymau drostynt yn unol â’r Cod Ymddygiad ar gyfer swyddogion ac aelodau ac mae modd cael copi o’r Cod hwn gan y Cyngor neu ar wefan y Cyngor.

Pwy sy'n cael mynychu Pwyllgor Cynllunio?

Mae hawl gan y cyhoedd i eistedd yng nghefn yr ystafell gyfarfod er gwrando ar y trafodaethau. Nid oes ganddynt hawl i ymyrryd yn y drafodaeth nac i leisio barn.

Mae gan y Cyngor drefn ble y gall gwrthwynebwyr a chefnogwyr unigol siarad am hyd at 3 munud yn y Pwyllgor Cynllunio. Mae’r trefniant hwn wedi ei gyfyngu i bersonau sydd wedi datgan eu bwriad i siarad yn unol â threfn siarad cyhoeddus y Cyngor. Cyfyngir siaradwyr i un o blaid ac un yn erbyn unrhyw gais unigol. Gellir cael copi o’r trefniant ar gyfer siarad cyhoeddus trwy gysylltu â’r Cyngor neu ar y wefan.

Gwahoddir y siaradwyr perthnasol i ddod i eistedd i leoliad arbennig gan y Cadeirydd er mwyn cyflwyno eu hachos i’r Pwyllgor a chyfyngir yr amser yn gaeth i’r cyfnod 3 munud. Yn unol â threfn siarad cyhoeddus y Cyngor gall siaradwr gyflwyno achos ar ran unigolyn neu ar ran sawl gwrthwynebydd neu gefnogwr.

 

Beth sy'n cael ei drafod?

Cyhoeddir Rhaglen y Pwyllgor o leiaf 5 niwrnod gwaith cyn dyddiad y Pwyllgor a bydd copïau ar gael yn y Pwyllgor hefyd. Bydd y rhaglen yn cynnwys rhestr ac adroddiadau o’r holl geisiadau a drosglwyddwyd i’r Pwyllgor am ystyriaeth.

Cyflwynir cofnodion Pwyllgor blaenorol i’w gadarnhau.

Cynnwys gweddill y rhaglen fydd adroddiadau’r Rheolwr Cynllunio ar y ceisiadau cynllunio. Mae’r adroddiadau yn cynnwys asesiad llawn o’r ceisiadau a gyfeiriwyd at y Pwyllgor ynghyd â’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Datgan yr adroddiad yn glir beth yw casgliadau ac argymhelliad y swyddog cynllunio . Bydd y ceisiadau unigol yn cael ei ystyried yn unol â’r drefn y’i rhestrir yn yr agenda.

Gweler y siart isod ar gyfer y drefn siarad.

Tabl i ddangos trefn y Pwyllgor Cynllunio
Adroddiad y Gwasanaeth Cynllunio ar y cais cynllunio yn cynnwys argymhelliad.   
 Os oes cais wedi ei dderbyn gan 3ydd parti i siarad, bydd y Cadeirydd yn gwahodd y siaradwr ymlaen  
3  Gwrthwynebydd, neu gynrychiolydd o’r gwrthwynebwyr yn cael annerch y pwyllgor 3 munud 
4  Ymgeisydd, gynrychiolydd yr ymgeisydd(wyr) neu Asiant yn cael annerch y pwyllgor  3 munud
 Aelod(au) Lleol yn cael annerch y pwyllgor  10 munud
6  Cadeirydd y pwyllgor yn gofyn am gynigydd ac eilydd i’r cais cynllunio  
7  Y pwyllgor yn trafod y cais cynllunio.  

Penderfyniadau ar Geisiadau

Mae’r Pwyllgor yn ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd ac yn penderfynu’r cais unai yn unol â’r argymhelliad neu yn groes i’r argymhelliad. Os bydd aelodau yn dymuno penderfynu cais yn groes i argymhelliad y Swyddog bydd rhaid iddynt roddi rhesymau materol cynllunio dros wneud hynny. Ble mae cyfiawnhad i wneud hynny, gall y Pwyllgor ohirio penderfyniad er i’r Pwyllgor Cynllunio ymweld â safle cais i geisio canfod gwybodaeth cynllunio ategol er trafod y mater yn y pwyllgor rhesymol nesaf.

Dim ond ymgeisydd/asiant sydd gyda hawl apelio yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor ond mewn achosion eithriadol ac ar sail cyfreithiol yn unig gall gwrthwynebydd roddi sialens i’r dyfarniad cynllunio o fewn cyfnod penodedig i’r Uchel Lys a dylid cysylltu â chyfreithiwr cyn ystyried gwneud hyn.

Nid yw caniatad cynllunio gan y Pwyllgor yn goresgyn unrhyw hawliau cyfreithiol, fel e.e. perchnogaeth tir, ac nid yw caniatad cynllunio ychwaith yn goresgyn yr angen i gydymffurfio â deddfwriaeth eraill fel e.e. Rheolaeth Adeiladu.

Gellir cael mwy o wybodaeth am faterion penodol a threfniant y Cyngor ar dudalen we'r Cyngor neu drwy gysylltu â’r swyddfa cynllunio.