Telerau Ac Amodau Difa Pla

Mae’r telerau ac amodau hyn yn berthnasol i’r gwasanaeth archebu Difa Pla ar-lein a dros y ffôn. Dylid eu darllen cyn gwneud cais am y gwasanaeth neu dderbyn y gwasanaeth.

 

Ffioedd y Cyngor

1. Pan fo angen triniaeth difa pla ychwanegol sydd heb ei bwcio (er enghraifft os bydd y swyddog yn canfod pla arall nad oedd yn rhan o'r cais gwreiddiol), bydd angen talu’r ffi am y driniaeth ychwanegol yn ystod yr ymweliad triniaeth cyntaf.

2. Gall y gwasanaethau, y ffioedd a'r costau newid ar unrhyw adeg.

3. Drwy dalu, rydych yn derbyn y gwasanaeth gan gytuno â’r telerau ac amodau hyn

4. Os ydych yn darparu gwybodaeth anghywir sy’n arwain at godi’r ffi anghywir, bydd angen talu unrhyw gost ychwanegol yn ystod yr ymweliad triniaeth cyntaf.

Apwyntiadau a mynediad i’r eiddo

5. Pan fydd y Cyngor angen mynediad i eiddo’r cwsmer er mwyn gwneud y gwaith, rhaid i chi sicrhau bod rhywun yn yr eiddo ar amser yr apwyntiad.

6. Am resymau iechyd a diogelwch, rhaid i’r person yn yr eiddo fod dros 16 oed mewn rhai achosion.

7. Ni fydd ad-daliad o’r ffi os yw'r swyddog yn methu cael mynediad i’r eiddo oherwydd bod y cwsmer yn absennol ar amser yr apwyntiad.

8. Pan fydd y Cyngor yn methu gwneud y gwaith oherwydd nad yw'r cwsmer wedi dilyn y cyfarwyddiadau a gafodd cyn yr ymweliad, ni fydd ad-daliad i’r cwsmer. Bydd angen trefnu apwyntiad newydd a thalu’r ffi arferol.

 

Canslo / aildrefnu apwyntiad

9. Os ydych yn canslo apwyntiad heb aildrefnu, ni roddir ad-daliad.

10. Os ydych yn aildrefnu apwyntiad o leiaf un diwrnod gwaith cyn yr apwyntiad, ni fydd y Cyngor yn codi unrhyw ffi ychwanegol.

11. Pan na all y Cyngor gadw apwyntiad, bydd y Cyngor yn cysylltu â chi gynted â phosib i gynnig amser arall . Os yw'r Cyngor yn canslo apwyntiad ac na ellir trefnu amser arall o fewn tri diwrnod gwaith, caiff y ffi ei had-dalu'n llawn o fewn tri diwrnod gwaith.

12. Os methir apwyntiad am resymau y tu hwnt i reolaeth y Cyngor, ni all y Cyngor dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw anghyfleustra neu golledion a ddaw i ran y cwsmer.


Y gwasanaethau

13. Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i benderfynu peidio â chyflawni’r gwaith yn yr eiddo.

14. Nid yw’r Cyngor yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled, difrod na niwed i unrhyw anifeiliaid domestig, adar, nwyddau nac offer heblaw bod diofalwch ar ran y Cyngor neu ei weithwyr wedi achosi’r niwed.

15. Rhaid hysbysu'r Cyngor yn ysgrifenedig o unrhyw golled, difrod neu niwed o fewn pum diwrnod gwaith.

16. Mae’r driniaeth yn cynnwys mwyafswm o bedwar ymweliad triniaeth. Ni all y Cyngor warantu y bydd y pla'n cael ei ddifa'n llwyr bob tro.

17. Ni fydd gweithwyr y Cyngor yn symud nythod gwenyn meirch ar ôl eu trin.

18. Dim ond pan fo hynny’n ymarferol y bydd y Cyngor yn symud llygod marw. Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i wrthod casglu.