Panel Trigolion Gwynedd

 

Mae sicrhau fod llais pobl Gwynedd yn ganolog i waith y Cyngor yn bwysig i ni.

 

Bwriad y Panel Trigolion yw ei wneud yn hawdd ac yn hwylus i drigolion ddweud eu dweud am y pethau sy’n bwysig iddyn nhw, drwy gymryd rhan mewn arolygon ac ymgynghoriadau. 

 

Bydd barn ac adborth sy’n cael ei gasglu mewn arolygon ac ymgynghoriadau yn cynorthwyo’r Cyngor i gynllunio, darparu ac adolygu gwasanaethau lleol.

 

Mae’n bwysig bod aelodaeth y Panel Trigolion yn cynrychioli poblogaeth Gwynedd, felly’n ogystal â chael aelodau o bob rhan o’r Sir mae hefyd angen cynrychiolaeth o bawb yn y gymdeithas.

 

Drwy ymaelodi efo’r Panel Trigolion byddwch yn:

  • cael gwybod am arolygon ac ymgynghoriadau mae Cyngor Gwynedd yn eu cynnal
  • cael cynnig i gymryd rhan mewn grwpiau ffocws neu weithdai pan fydd rhai’n cael eu cynnal, os ydych yn dewis hynny 
  • derbyn gwybodaeth am ganlyniadau arolygon ac ymgynghoriadau

 

Ymuno â'r Panel Trigolion

I ymuno â’r Panel bydd angen i chi lenwi holiadur fydd yn cymryd tua 5 munud i’w gwblhau:

Ymuno â'r Panel 

Bydd y manylion rowch chi yn yr holiadur yn cael eu trin yn gwbl gyfrinachol gan gydymffurfio gyda’r Ddeddf Diogelu Data (2018). Ni fyddwn yn rhannu’r manylion gydag unrhyw sefydliad arall.

 

Byddwn yn cysylltu â chi bob 3 blynedd i ofyn os ydych eisiau parhau i fod yn aelod.

 

Petai gennych unrhyw gwestiynau am y Panel gallwch gysylltu â ni drwy e-bostio paneltrigolion@gwynedd.llyw.cymru