Arolwg Busnes 2024 Cyngor Gwynedd

Mae Cyngor Gwynedd yn cynnal arolwg i gasglu trosolwg o'r hinsawdd fusnes presennol a deall anghenion busnesau lleol yn well.

Rydym am glywed gan fusnesau ar draws pob sector am yr heriau rydych chi'n eu hwynebu, y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch a'ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Trwy wrando ar eich adborth, byddwn yn teilwra ein gwasanaethau i gefnogi'r gymuned fusnes yn well.  

 

Caiff y canlyniadau eu cyhoeddi yn y Flwyddyn Newydd, gan gynnig mewnwelediad defnyddiol i dueddiadau a heriau lleol.

 

 

Rhoi eich barn

Arolwg Busnes 

Dylid cwblhau'r arolwg erbyn hanner nos ar 25 Tachwedd.    

 

Os na allwch roi eich barn ar-lein, gallwch gael copi papur o'r holiadur ac amlen bost am ddim i'w dychwelyd atom: 

  • yn Llyfrgell Gwynedd 
  • yn Siop Gwynedd Caernarfon, Pwllheli neu Dolgellau 
  • drwy ffonio 01286 679505 i dderbyn copi drwy'r post