Arolwg Gwynedd 2025
Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i glywed barn y cyhoedd am yr hyn sy’n bwysig i drigolion a chymunedau’r sir.
Mae Arolwg Gwynedd ar agor am gyfnod o chwe wythnos, ac yn gyfle i bobl leol ddweud eu dweud ar yr ystod o wasanaethau sy’n cael eu darparu gan y Cyngor – o drafnidiaeth, i dai, i gasgliadau gwastraff a mwy.
Drwy gynnal yr ymarferiad hwn, bwriad Cyngor Gwynedd yw cael gwell dealltwriaeth am:
- Yr hyn sy’n bwysig i drigolion Gwynedd
- Sut le ydi Gwynedd i fyw a phrofiad pobl o’r ardal leol
- Sut mae trigolion yn teimlo am y Cyngor ac yn rhyngweithio â’r Cyngor.
Sut rydw i’n gallu rhoi fy marn?
Rhoi eich barn - Arolwg Gwynedd 2025
- Lawrlwythwch gopi hawdd ei ddeall o'r holiadur yma.
- Mae copïau papur ar gael yn y dair Siop Gwynedd (Caernarfon, Pwllheli a Dolgellau) ac ym mhob llyfrgell yn y sir. Lawrlwythwch gopi papur yma.
- Bydd swyddogion y Cyngor yn cynnal sesiynau galw-heibio ble bydd modd llenwi’r holiadur yn y fan a’r lle, cadwch lygaid am fanylion ar gyfryngau cymdeithasol y Cyngor.
- I ofyn am gopi papur drwy’r post, cysylltwch â 01286 679266 neu 01286 679233.
Bydd yr arolwg ar agor rhwng 10 Chwefror a 24 Mawrth, 2025.
Mae Cyngor Gwynedd yn cydweithio â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Data Cymru sydd wedi datblygu’r arolwg cenedlaethol hwn.