Arolwg Twristiaeth - Trigolion Gwynedd
Mae Cyngor Gwynedd yn dymuno deall barn cymunedau lleol yng Ngwynedd am dwristiaeth. Mae’n bwysig i ni gael clywed eich barn chi.
Mae arolwg 2024 yn dilyn yr ymchwil a gynhaliwyd gan Croeso Cymru yn 2023 i geisio barn trigolion ar dwristiaeth.
Fe hoffem ddysgu mwy am yr effaith y mae twristiaeth yn ei gael ar eich cymunedau a beth yw’r manteision a’r anfanteision sy’n deillio ohono. Bydd y canfyddiadau’n cael eu defnyddio i oleuo polisi twristiaeth yn y dyfodol, er mwyn ymateb yn y ffordd orau i anghenion lleol yr holl gymunedau cysylltiedig.
Rhoi eich barn
Arolwg Twristiaeth - Trigolion Gwynedd
Gofynnwn i chi gyflwyno eich ymateb erbyn 15 Tachwedd 2024.
Mae'r arolwg yn cael ei reoli'n gyfan gwbl gan Gyngor Gwynedd a'i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.