Holiaduron Canol Trefi Gwynedd
Fel rhan o raglen Gosod Sylfaen ar gyfer Buddsoddiad, Balchder a Bwrlwm Canol Trefi Gwynedd, sydd wedi ei ariannu drwy raglen Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU, mae Cyngor Gwynedd wedi datblygu a gweithredu ystod o brosiectau fel rhan o’r ymdrech i adfywio, codi balchder a chreu bwrlwm yng nghanol trefi Gwynedd.
Fel rhan o broses gwerthuso’r cynllun yn ei gyfanrwydd rydym yn awyddus i dderbyn adborth lleol ar effaith y prosiectau uchod ar drefi Gwynedd.
Bydd canlyniadau’r holiadur hwn yn ein galluogi i adrodd ar feini prawf allbynnau a chanlyniadau’r rhaglen ariannu, yn ogystal a’n cynorthwyo wrth ddatblygu prosiectau Canol Trefi i’r dyfodol.
Fe fydd yr holiaduron yn cau ar y 29ain o Ionawr 2025.
Bala - rhoi eich barn
Bangor - rhoi eich barn
Caernarfon - rhoi eich barn
Penrhyndeudraeth - rhoi eich barn