Crwner
Mae crwneriaid yn cofnodi ac yn ymchwilio i farwolaethau sydyn, annisgwyl a threisgar. Yr Uwch Grwner Ei Fawrhydi dros Ogledd Cymru (Gorllewin) ar gyfer Gwynedd a Môn yw Ms Kate Robertson LL.B (Anrh) sy'n gyfreithiwr.
Nid yw pob marwolaeth yn cael eu hadrodd i'r Crwner; ym mwyafrif yr achosion, gall Feddyg Teulu neu feddyg ysbyty roddi Tystysgrif Feddygol o achos y farwolaeth fel y gellir ei chofrestru gan y cofrestrydd.
Dylid adrodd am farwolaeth wrth y Crwner pan fydd meddyg yn gwybod neu ag achos rhesymol dros amau bod honno’n farwolaeth:
-
o ganlyniad i wenwyn, defnyddio cyffur rheoledig, cynnyrch meddyginiaethol, neu gemegyn gwenwynig;
-
a ddigwyddodd o ganlyniad i drawma, trais neu anaf corfforol, p'un ai a achoswyd yn fwriadol ai peidio;
-
sy’n gysylltiedig ag unrhyw driniaeth neu weithdrefn feddygol neu debyg ei natur;
-
a ddigwyddodd o ganlyniad i hunan-niwed, (gan gynnwys methiant gan y sawl a fu farw i gadw ei fywyd ei hun) boed yn fwriadol neu fel arall;
-
a ddigwyddodd o ganlyniad i anaf neu glefyd a gafwyd yn ystod, neu y gellir ei briodoli i, gyrfa waith y sawl a fu farw;
-
a ddigwyddodd o ganlyniad i ddamwain, gwenwyn, neu afiechyd hysbysadwy;
-
a ddigwyddodd o ganlyniad i esgeulustod neu fethiant o ran gofal gan berson arall;
-
a oedd fel arall yn annaturiol.
Dylai'r Crwner hefyd gael gwybod os:
-
digwyddodd y farwolaeth yn y ddalfa neu fel arall yng ngharchar y wladwriaeth - o ba bynnag achos;
-
na fu ymarferydd meddygol i weld yr ymadawedig ar unrhyw adeg yn y 14 diwrnod cyn y farwolaeth a bod dim ymarferydd meddygol ar gael o fewn cyfnod rhesymol i baratoi Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth;
-
na ŵyr neb pwy yw’r ymadawedig;
-
nad yw’n hysbys beth oedd achos y farwolaeth.
Pan fydd marwolaeth wedi ei hadrodd i’r Crwner bydd yn rhaid i’r cofrestrydd aros i’r Crwner orffen ei ymholiadau cyn y gellir cofrestru’r farwolaeth. Gall yr ymholiadau hyn gymryd amser, felly cymeradwyir cysylltu â swyddfa’r Crwner cyn gwneud unrhyw drefniadau ar gyfer angladd.
Bydd y crwner yn ceisio sefydlu achos meddygol y farwolaeth. Os bydd amheuaeth ynglŷn â’r achos yn dilyn post mortem, fe gynhelir cwest. Os bydd yr archwiliad yn dangos bod y farwolaeth yn un naturiol, mae’n bosib na fydd angen cwest ac fe wnaiff y crwner anfon ffurflen at y cofrestrydd marwolaethau fel y gall perthnasau gofrestru’r farwolaeth a fel y gall y cofrestrydd roi tystysgrif claddedigaeth.
Cwestau
Cynhelir cwest i gofnodi:
Pan ddeuir i gasgliad, bydd y Crwner yn cofnodi’r manylion sydd eu hangen er mwyn cofrestru’r farwolaeth.
Nid yw cwest yn penderfynu ynglŷn ag atebolrwydd sifil neu atebolrwydd troseddol ar ran rhywun a enwir.
Cwestau ar y gweill
Cwest Ysgrifenedig - wythnos yn dechrau 15/04/2025:-
Martin Wyn Jones – 50 oed, marw Llangefni ar 08/08/2024
15/04/2025 - Siambr Dafydd Orwig, Stryd y Jêl, Caernarfon LL55 1SH
Agoriad Ffurfiol - 09:00
Stanley Jones – 88 oed, marw Llanfairpwll ar 15/03/2025
George Alun Jones – 84 oed, marw Caernarfon ar 27/03/2025
Gareth Wynne Jones – 56 oed, marw Ysbyty Gwynedd ar 26/03/2025
Elinor Catherine Davies - 89 oed, marw Ysbyty Gwynedd ar 29/09/2024
Allen Lee-Simpson - 42 oed, marw Blaenau Ffestiniog ar 04/01/2025
Andrew Francis Flynn – 27 oed, marw Harlech ar 14/01/2025
Kenneth Williams – 85 oed, marw Bangor ar 07/04/2025
Brenda Esther Frost – 83 oed, marw Ysbyty Gwynedd ar 14/03/2025
John Llewelyn Davies – 95 oed, marw Porthmadog ar 04/04/2025
Dorothy Olwen Hughes – 93 oed, marw Ysbyty Gwynedd ar 31/03/2025
Cwest Llawn:
09:30 – William Alexander Pritchard – 89 oed, marw Pwllheli ar 27/09/2024
14:00 – Betty Evans – 85 oed, marw Ysbyty Gwynedd ar 28/09/2024
Cwest Ysgrifenedig - wythnos yn dechrau 16/04/2025:-
Jean Waring Owen – 78 oed, marw Ysbyty Gwynedd ar 29/01/2025
Mair Gwyneth Edwards – 95 oed, marw Ysbyty Gwynedd ar 10/01/2025
Cwest Ysgrifenedig - wythnos yn dechrau 17/04/2025:-
Simon Martin Griffiths – 48 oed, marw Ysbyty Maelor Wrecsam ar 17/11/2024
John Selby Edwards – 79 oed, marw Gran Canaria, Sbaen ar 25/10/2024
Cwest Ysgrifenedig - wythnos yn dechrau 21/04/2025:-
Glenys Mai Jones – 77 oed, marw Pentrefelin, Criccieth ar 07/12/2024
Cwest Ysgrifenedig – wythnos yn dechrau 24/04/2025:-
Leo Alun Bradbury – 17 oed, marw Menai Straits, ar 28/9/24
25/04/2025 – Siambr Dafydd Orwig, Stryd y Jêl, Caernarfon LL55 1SH:-
Agoriad Ffurfiol:
9:00 - Beryl Iris Parry – 92 oed, marw Ysbyty Gwynedd, ar 05/04/2025
02/05/2025 – Siambr Dafydd Orwig, Stryd y Jêl, Caernarfon LL55 1SH:-
Cwest Llawn:
09:30 – Terence Peter French – 73 oed, marw Talybont ar 26/12/2023
11:30 – Dennis Lloyd Wright – 79 oed, marw Ysbyty Gwynedd ar 18/10/2024
14:00 – Huw Melfyn Williams – 60 oed, marw Afon Seiont ar 15/12/024
06/05/2025 - Siambr Dafydd Orwig, Stryd y Jêl, Caernarfon LL55 1SH:
Gwrandawiad Cyn Cwest:
09:30 – Sion Geraint Jones – 34 oed, marw Caergybi ar 28/10/2023
19-21/05/2025 – Siambr Dafydd Orwig, Stryd y Jêl, Caernarfon LL55 1SH:-
Cwest Llawn:
09:30 – Etta Lili Stockwell-Parry – 4 diwrnod oed, marw Ysbyty Arrowe Park ar 07/07/2023
Cofrestru Marwolaethau
Os penderfyna’r Crwner bod angen cynnal cwest, ni chaiff y farwolaeth ei chofrestru nes bod y cwest wedi ei gwblhau, fodd bynnag rhoddir Tystysgrif Marwolaeth Dros Dro gan y Crwner hyd nes y gellir cofrestru’n llawn.
Wedi’r cwest, bydd y Crwner yn cofrestru'r farwolaeth gyda chofrestrydd yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth. Dyma lle mae swyddfeydd cofrestru Gogledd Cymru (Gorllewin):
Swyddfa'r Crwner
Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Crwner yn defnyddio'r manylion isod:
Cyfeiriad: Swyddfa Crwner Ei Mawrhydi, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH
E-bost: crwner@gwynedd.llyw.cymru
Rhif ffôn: 01286 672 804