Amgueddfa Lloyd George

 

Rydym ar gau ar hyn o bryd ar gyfer gwaith moderneiddio ac ailddehongli. Bydd yr amgueddfa'n ailagor y Pasg 2025 gydag arddangosfeydd wedi'u diweddaru i gyfoethogi profiad yr ymwelydd. 

Close

 

Mae'r eitemau yn Amgueddfa Lloyd George a Highgate, cartref ei blentyndod, yn ein helpu i ddeall bywyd ac amseroedd y cyn-Brif Weinidog o 1863 - 1945.

Yma gallwch weld arddangosfa unigryw o wrthrychau yn adrodd ei stori – casgedau a sgroliau wedi'u haddurno'n wych ac yn unigryw a gyflwynwyd iddo fel anrhydeddau dinas, megis model arian syfrdanol o Gastell Cricieth a gyflwynwyd gan y dref.

Arddangosir hefyd, medalau, paentiadau, lluniau, dogfennau fel Cytundeb Versailles, 'Coron Lloyd George' (y pensiwn cyntaf a ddosbarthwyd yng Nghymru), gwisgoedd ac eitemau personol.  Dysgwch sut y daeth Lloyd George i sylw cenedlaethol oherwydd giât oedd dan glo yn Llanfrothen a chael golwg ar helmed y plismon a wisgodd Lloyd George i ddianc rhag torf blin yn Birmingham. Gewch ymweld a’r ardd lle tyfodd Lloyd George lysiau fel plentyn a gweld gosodiad celf o 2019, 'Rhif 10'. 

 

Taith Gerdded Lloyd George

 

Oriau agor a lleoliad

Mae’r Amgueddfa ar agor rhwng Pasg a’r Hydref. Rydym yn argymell eich bod yn ffonio cyn ymweld. 

Ebrill – Mai

10:30 - 17:00, Llun – Gwener (Sadwrn a Sul hefyd ar benwythnos Gŵyl Banc)

 

Mehefin

10:30 - 17:00, Llun – Sadwrn

 

Gorffennaf - Awst

10:30 - 17:00, Llun – Sul

 

Medi (hyd at 18/09/24) 

10:30 - 17:00, Llun - Sul

Cliciwch ar y map i’w wneud yn fwy

Pris mynediad 

Prisiau Amgueddfa Lloyd George
 Oedran Pris
 Oedolion  £7.50
 Plant  £4.00 
 Rhai dros 65 / Myfyrwyr  £6.50
 Tocyn Teulu  £20.00

Cysylltu â ni 

 

Cyfle i’r plant:

  • ddysgu am y gwladweinydd enwog
  • gwisgo dillad Fictoraidd
  • mwynhau gwers yn y dosbarth Fictoraidd
  • dysgu mwy am grefft y crydd yng ngweithdy Yncl Lloyd
  • coginio ar y tân agored
  • golchi dillad â thwb, doli bren a mangl

Darperir gwasanaeth addysg llawn a phecyn gwybodaeth i athrawon ymlaen llaw, sy’n cynnwys taflenni gwaith a gwybodaeth.

Addas ar gyfer CAau 1, 2 a 3 mewn sawl pwnc ar y cwricwlwm, a TGAU / Lefel A Hanes.

Cysylltu â'r gwasanaeth addysg

Ymunwch â'r Cyfeillion er mwyn helpu i gadw'r cof am Lloyd George yn fyw. Rydym yn:

  • cefnogi a chynorthwyo datblygiad yr Amgueddfa a'i defnydd addysgiadol, a chefnogi datblygiadau newydd
  • trefnu a hyrwyddo darlithoedd a digwyddiadau
  • codi arian at brynu eitemau addas i'w harddangos a hybu ymchwil

Lawrlwytho ffurflen ymaelodi

 

  • Cadeirydd - Philip George
  • Is-gadeirydd - Merfyn Jones
  • Trysorydd - Nesta G Jones
  • Ysgrifennydd - Elizabeth George

Cyfeillion Amgueddfa Lloyd George, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0SH
01766 522071