Celfyddydau Cymunedol
Mae Uned Celfyddydau Cymunedol Gwynedd yn cynnal cyfres o gynlluniau blynyddol sy’n cefnogi pobl gael mynediad at, mwynhau a phrofi’r celfyddydau, a hynny er lles unigolion, cymdeithas, yr economi a chymuned.
Bob blwyddyn mae Uned Celfyddydau Cymunedol Gwynedd yn cynnal rhaglen o wahanol weithgareddau a phrosiectau ar draws y sir. O weithdai i arddangosfeydd, cyrsiau i grantiau a gwyliau i gynlluniau creadigol, rydym am i bawb fwynhau'r celfyddydau.
Mae grantiau ar gael i gefnogi gweithgarwch celfyddydol. Gallwn hefyd gefnogi perfformiadau proffesiynol yn y gymuned drwy raglen Noson Allan a Noson Allan Fach, mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru.
Mwy o fanylion am gronfeydd ariannol
Cronfa Celfyddydau Cymunedol Gwynedd!
Cronfa i gefnogi grwpiau cymunedol a gwirfoddol i gynnal gweithgareddau celfyddyd gymunedol yng Ngwynedd. Grantiau hyd at £500 ar gael.
Dyddiad cau nesaf 28 Mawrth 2025.
Mae'r gronfa hon ar agor bedair gwaith y flwyddyn gyda'r dyddiadau cau canlynol:
- 28 Mawrth 2025
- 27 Mehefin 2025
- 26 Medi 2025
- 9 Ionawr 2026
Mwy o wybodaeth a lawrlwytho ffurflen gais
Cysylltwch am gyngor a gwybodaeth bellach celf@gwynedd.llyw.cymru
Llyfr Lloffion Gaeaf 2024 Celfyddydau Cymunedol Gwynedd
Croeso i Llyfr Lloffion arall gan Gelfyddydau Cymunedol Gwynedd.
Mae Celfyddydau Cymunedol Gwynedd yn rhedeg cyfres o gynlluniau blynyddol sy'n cefnogi pobl Gwynedd i fwynhau ac i brofi'r celfyddydau - er budd unigolion, y gymdeithas, yr economi a'r gymuned. Bob blwyddyn, mae Celfyddydau Cymunedol Gwynedd yn rhedeg rhaglen o weithgareddau a phrosiectau gwahanol ledled y sir. O weithdai i arddangosfeydd, cyrsiau i grantiau a gwyliau i gynlluniau creadigol, rydym am i bawb fwynhau'r celfyddydau.
Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau'r ciplun hwn o'r gwaith yr ydym yn ei wneud. Gallwch ddarllen y llyfr lloffion trwy'r ddolen isod
E-bostiwch ni ar celf@gwynedd.llyw.cymru
Llyfr Lloffion Gaeaf 2024
Arddangosfa newydd Oriel Ysbyty Gwynedd - Staff Ysbyty Gwynedd a BIPBC
O 6 Mawrth 2025, wrth i chi fynd i brif fynedfa Ysbyty Gwynedd, byddwch yn gallu gweld cyfres o weithiau celf ar y waliau ac yn y cypyrddau gwydr, sydd i gyd wedi'u creu gan staff y GIG ar gyfer arddangosfa newydd sy'n dathlu gwerth y celfyddydau a chreadigrwydd.
Ers 2011, mae Celfyddydau Cymunedol Gwynedd, mewn cydweithrediad â Ffynnon Greadigol (Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC), wedi darparu llwyfan i artistiaid lleol a grwpiau cymunedol arddangos eu gwaith yng nghyntedd Ysbyty Gwynedd gyda chyfres o arddangosfeydd treigl yn cael eu mwynhau gan ymwelwyr, cleifion a staff.
Yn y cyntaf o'i math ar gyfer Oriel Ysbyty Gwynedd, mae'r arddangosfa hynod arbennig hon o waith celf yn dathlu creadigrwydd anhygoel staff y GIG trwy amrywiaeth o ffurfiau celf gan gynnwys ffotograffiaeth, paentio, celfyddydau digidol, pensiliau, pasteli, cerfio a chlai. Mae pob gwaith celf yn unigryw ac maent yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau gydag ysbrydoliaeth yn dod o fyd natur, anifeiliaid, tirweddau, siâp, lliw, yn ogystal â'n cymunedau a'n diwylliant. Mae'r gwaith celf yn cael ei wneud gan staff o ystod o dimau a gwasanaethau, gan gynnwys: Ystum a Symudedd, Wroleg, Arlwyo, Pediatreg, Porthorion, Iechyd y Cyhoedd, Niwroffisioleg, Cofnodion Iechyd, a Gofal i'r Henoed ac mae'n cynnwys staff o ystod o alwedigaethau sydd i gyd yn rhan o dîm BIPBC sy'n darparu gofal iechyd i'n cleifion a'n cymunedau yng Ngogledd Cymru.
Bydd y gwaith celf yn cael ei arddangos rhwng mis Mawrth a mis Mai 2025 a gellir dod o hyd iddo wrth Brif Fynedfa Ysbyty Gwynedd.
Stiwdio Lles
Eisiau dod i nabod pobl newydd? Eisiau adeiladu hyder? Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth creadigol?
Mae’r Stiwdio Lles yn cynnig gofod croesawgar i oedolion ifanc rhwng 18-30 oed gymryd rhan mewn sesiynau creadigol efo cerddorion, artistiaid, ‘sgwennwyr a pherfformwyr i helpu ti ddelio efo gorbryder, diffyg hyder, anhawster cymdeithasu ac / neu unigrwydd.
Mae’r sesiynau yn anffurfiol ac am ddim ac yn digwydd yng nghartref Frân Wen yn Nyth, Ffordd Garth, Bangor.
Maen nhw’n sesiynau galw-heibio sy’n ddwy awr o hyd, ac mae croeso i chi fynychu un neu ddau sesiwn, neu bob un.
Bydd yr holl sesiynau yn cael eu hwyluso gan yr artistiaid proffesiynol canlynol: Casi Wyn, Mirain Fflur, Robin Edwards, Mari Gwent ac Elgan Rhys.
Pa bryd mae’n digwydd?
- 19/03/25 - Dydd Mercher 16:00-18:00 gyda Elgan
- 26/03/25 - Dydd Mercher 16:00-18:00 gyda Mirain
- 02/04/25 - Dydd Mercher 16:00-18:00 gydah Mirain
- 09/04/25 - Dydd Mercher 16:00-18:00 gyda Casi
- 16/04/25 - Dydd Mercher 16:00-18:00 gyda Mari
- 23/04/25 - Dydd Mercher 16:00-18:00 gyda Casi
- 30/04/25 - Dydd Mercher 16:00-18:00 gyda Robin
- 07/05/25 - Dydd Mercher 16:00-18:00 gyda Elgan
- 14/05/25 - Dydd Mercher 16:00-18:00 gyda Robin
- 21/05/25 - Dydd Mercher 16:00-18:00 gyda Mari
Mwy o fanylion am Stiwdio Lles
Mwy o wybodaeth...
Am newyddion, cyfleoedd, digwyddiadau, manylion artistiaid a mudiadau celfyddydol Gwynedd ymwelwch â Gwynedd Greadigol, neu dilynwch ni ar Instagram a Facebook.
Cysylltu â ni
Cysylltwch â’r Swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol ar:
Y Ffôn: 07765 652742
Instagram: @celfgwyneddarts