Parcio Traeth Tymhorol Morfa Bychan (Black Rock Sands) a Machroes

Morfa Bychan

Gall cerbydau gael mynediad i draeth Morfa Bychan. Mae ffi yn daladwy rhwng 1 Ebrill a 30 Medi. Mae dewis i brynu tocyn diwrnod neu docyn tymor:

  • Tocyn diwrnod - Morfa Bychan 
    (I’w dalu wrth fynedfa’r traeth. Taliad cerdyn yn unig.)
    • Car: £8
    • Cerbyd mawr / carafán: £16
      (Mynediad hanner pris i ddeiliaid bathodyn glas ar ôl 4pm)
  • Tocyn tymor – Morfa Bychan
    Rhaid prynu’r tocyn tymor ar-lein. 
    • Trigolion parhaol ward Porthmadog - Car: £26.25 / Cerbyd mawr: £52.50
    • Trigolion parhaol Gwynedd - Car: £63 / Cerbyd mawr: £126
    • Trigolion o'r tu allan i Wynedd - Car: £84 / Cerbyd mawr: £168 

Prynu tocyn tymor ar-lein: Morfa Bychan 

Gweld telerau ac amodau 

RHAID dangos tystiolaeth o’ch cyfeiriad wrth gasglu’ tocyn tymor.

 

 

Traeth Machroes

Mae peiriant ‘talu ac arddangos’ yn y maes parcio yn nhraeth Machroes.  Mae dewis i brynu tocyn diwrnod neu docyn tymor:

  • Tocyn diwrnod Machroes 
    (Arian parod yn unig.)
    • £6 y diwrnod 
  • Tocyn tymor – Machroes
    Rhaid prynu’r tocyn tymor ar-lein. 
    • Car: £84
    • Cerbyd mawr / carafan: £168

Prynu tocyn tymor ar-lein: Machroes 

Gweld telerau ac amodau