Hinsawdd a natur: Cynlluniau, polisïau ac adroddiadau

Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur

Cafodd y Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur ei fabwysiadu mewn cyfarfod o’r Cabinet ar 8 Mawrth 2022.

Mae’r cynllun yn esbonio’r rhesymau pam fod angen i’r Cyngor weithredu, pa gamau y bydd yn ei gymryd, ac yn cynnig amserlen a chostau amlinellol ar gyfer y gwaith.

Uchelgais y cynllun yw y “Bydd Cyngor Gwynedd yn garbon sero net ac yn ecolegol gadarnhaol erbyn 2030.” 

Gweld Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur Gwynedd

Mae hwn yn gynllun y byddwn yn ei ddatblygu a’i addasu rhwng 2022 a 2030, a byddwn yn ymgynghori’n eang gyda chymunedau Gwynedd a gyda’n partneriaid wrth wneud hynny.


Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur: Adroddiad Blynyddol 2022/23 Cyngor Gwynedd
 

Mae Adroddiad Blynyddol 2022/23 yn edrych yn ôl ar waith a gyflawnwyd yn ystod blwyddyn gyntaf bodolaeth y Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur. 

Gweld Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur - Adroddiad Blynyddol 2022/23

 

Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur: Adroddiad Blynyddol 2023/24 Cyngor Gwynedd

Mae Adroddiad Blynyddol 2023/24 yn edrych yn ôl ar waith a gyflawnwyd yn ystod ail flwyddyn bodolaeth y Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur.

Gweld Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur - Adrioddiad Blynyddol 2023/24

 

Cynlluniau a pholisïau eraill