Grant cyfleusterau i bobl anabl

Dyma grant penodol am waith i ddarparu cyfleusterau ar gyfer addasiadau er budd pobl anabl yn eu prif gartref. Mae enghreifftiau o’r math o waith y gellir ei gyflawni yn cynnwys:

  • gosod cawodydd mynediad gwastad
  • lifftiau grisiau
  • addasu ystafelloedd
  • estyniadau
  • mynediad i eiddo

Mae'r grant yn dilyn rheidrwydd deddfwriaethol i ddarparu addasiadau i gydymffurfio a nod darpariaeth deddfwriaethol Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adnewyddu 1996, Adrannau 19 – 24 fel a ddiwygiwyd yn Atodlen 3 o’r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Lloegr a Chymru) 2002.

Faint sydd ar gael?

Mae uchafswm grant o £36,000, ond mewn achosion arbennig gellir caniatáu ychwanegu benthyciad dewisol, drwy gyfrwng Benthyciad Dewisol Cyfleusterau i’r Anabl (BDCA). I holi am y pres sydd ar gael, cysylltwch â ni.

Pwy sydd yn cael gwneud cais?

Yr unig ffordd y mae derbyn y grant hwn yw drwy gael eich cyfeirio’n ffurfiol gan Therapydd Galwedigaethol yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant. Gallwch gysylltu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt isod:

map oedolion

Gweld map llawn

1. Ardal Llŷn

2. Ardal Caernarfon

3. Ardal Bangor

4. Ardal Eifionydd a Gogledd Meirionnydd

5. Ardal De Meirionnydd

 

Mwy o wybodaeth

1)        Mae cyfeiriad ffurfiol yn cael ei wneud gan Therapyddion Galwedigaethol Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant Cyngor Gwynedd.

2)        Bydd Therapydd Galwedigaethol yn ymweld a chwi, ac yn trafod yr addasiadau bwriedig gyda chwi i sicrhau fod eich holl anghenion angenrheidiol yn cael eu hystyried.

3)        Os bydd angen, gall Swyddog Grantiau ymweld gyda’r Therapydd Galwedigaethol i benderfynu os gellir cario allan yr addasiadau bwriedig i’ch cartref. Os cymerir y penderfyniad i gario ymlaen, bydd y gwaith yn cael ei gario allan yn y modd mwyaf effeithiol.

Mae’n reidrwydd statudol fod pob grant yn ddarostyngedig i brawf modd. Gellir gwneud prawf modd rhagarweiniol cyn cael unrhyw gyfeiriad gan Therapydd Galwedigaethol os dymunir.

  • Bydd y prawf modd yn cael ei gario allan ar y Person Anabl a’i briod.
  • Mae taliadau morgais/rhent, biliau’r cartref, a thaliadau Treth y Cyngor yn cael eu cymeryd i ystyriaeth gyda’i gilydd.
  • Rhaid datgan pob incwm, asedau, cyfalaf a chynilion.
  •  Bydd yn raid i chwi ddarparu dogfennau gwreiddiol fel slipiau cyflog, datganiadau banc am gyfnod o ddeuddeg mis fel rhan o’r prawf modd.

Bydd derbyn rhai budd-daliadau yn caniatáu i’r person anabl osgoi cyfran o’r broses prawf modd.

Os yw’r gwaith angenrheidiol ar gyfer plentyn anabl, NI fydd raid cymeryd prawf adnoddau.

  • Bydd yr Adran yn derbyn cyfeiriad gan Therapydd Galwedigaethol, ac wedyn yn cysylltu a chi er mwyn llenwi ffurflen gais a chynnal prawf Adnoddau ffurfiol. 
  • Bydd amserlen ar gyfer unrhyw waith addasu yn ddibynnol ar maint a natur yr addasiad ond fydd pob ymdrech yn cael ei wneud i gwblhau’r gwaith yn amserol. 
  • Unwaith y cytunir ar y prisiau, cymeradwyir y grant, a disgwylir i’r ymgymerwr gychwyn ar y gwaith o fewn 6 wythnos.
  • Ar gyfartaledd, bydd cyfnod o tua 9 mis o gysylltiad cyntaf gyda’r Therapydd Galwedigaethol hyd at gwblhad y gwaith.

Swm y grant a gymeradwyir fydd y gwahaniaeth rhwng cost gyfan y gwaith cymwys, a’ch cyfraniad chi fel a benderfynir drwy’r prawf adnoddau

Oes, mae’r amodau fel y canlyn:

  1. Rhaid i chwi brofi perchnogaeth o’r eiddo. Byddwn yn ceisio gwneud hyn 2 drwy gysylltiad uniongyrchol a’r Gofrestrfa Tir os yn bosibl, ond os nad yw yr eiddo wedi ei gofrestru, bydd raid i chwi ofyn i Gyfreithiwr neu eich Benthyciwr Morgais i gwblhau Tystysgrif Profi Teitl.
  2. Rhaid i chwi dalu eich cyfraniad (os oes un) yn llawn cyn dechrau unrhyw waith. Lle bod ymgeisydd wedi cael un Grant Cyfleusterau i’r Anabl mewn un eiddo, mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i ystyried ceisiadau am yr un math o waith mewn eiddo arall dim ond mewn amgylchiadau eithriadol.
  3. Bydd rhagdybiaeth i beidio ariannu gwaith o’r un natur ar ddau eiddo gwahanol i’r un person.
  4. Lle bo cost terfynol y grant yn fwy na £5,000, a bod gan yr ymgeisydd hawl perchennog cymwys ar yr eiddo, bydd y Cyngor yn hawlio’r cyfran o’r grant sydd yn fwy na £5,000 os na chedwir at yr amodau grant yn llawn trwy gydol y cyfnod a nodwyd. Ni all y Cyngor hawlio swm fydd yn fwy na £10,000. Bydd yr amod ad dalu yma yn cael ei weithredu os gwerthir yr eiddo o fewn 10 mlynedd o’r dyddiad a nodir ar y Tystysgrif Cwblhau Gwaith. Ar ôl 10 mlynedd bydd yr amodau grant yn dod i ben, ac ni fydd cais am ad daliad.
  5. Mae’r ymgeisydd yn gyfrifol am gynnal a chadw unrhyw offer neu addasiad unwaith y mae’r cyfnod cynnal cychwynnol wedi dod i ben, ac ni fydd y Cyngor yn ystyried darparu neu gyflenwi yr un addasiad, pan fod y rheswm dros y diffyg yn deilio o fethiant yr ymgeisydd i ofalu i gynnal a chadw unrhyw offer yn unol a gofynion y gwneuthurwr a’r gosodwr

 

Cysylltu â ni

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni:

  • Ffôn: 01341 424351 
  • Ebost neu ymholiad ar lein: Cysylltu â Gwasanaeth Oedolion Gwynedd
  • Cyfeiriad post: Uned Grantiau a Phrosiectau, Adran Tai ac Eiddo, Cyngor Gwynedd, Cae Penarlag, Dolgellau, LL40 2YB