Cynllunio ar gyfer y dyfodol
Mae cynllunio ar gyfer y dyfodol yn bwysig i unrhyw un mewn rôl gofalu. Petai argyfwng yn codi, a’r gofalwr yn methu parhau i ofalu, mae cael trefniadau wrth gefn sydd wedi eu trafod a’u cytuno gan yr unigolyn sy’n derbyn gofal a’r gofalwr yn holl bwysig.
Mae rhannu gwybodaeth am feddyginiaeth a threfniadau ymarferol gyda aelodau o’r teulu neu ffrindiau yn syniad da, fel eu bod yn ymwybodol o’r anghenion petai unrhyw newid i’r trefniadau gofal arferol.
Mae elusen Gofalwyr Cymru wedi datblygu App all helpu gofalwyr i rannu gwybodaeth a threfniadau gofalu gyda theulu, ffrindiau neu eraill sy’n rhannu’r gofal.
Mwy o wybodaeth: App Jointly
Ysbaid
Mae’n bosib y gellid trefnu ysbaid dros dro mewn cartref preswyl, neu efallai ystyried symud i un o leoliadau tai gofal ychwanegol y sir.
Mwy o wybodaeth: Cartrefi Gofal a Thai Gofal Ychwanegol
Profedigaeth
Pan fo dyletswyddau gofalu’n dod i ben mae cefnogaeth ar gael i ddeall pa drefniadau sydd angen eu gwneud, ac i ymdopi efo’r galar. Mae modd cael cymorth ymarferol ac ariannol yn dilyn profedigaeth.
Mwy o wybodaeth: Marwolaethau ac Angladdau
Mae Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr yn parhau i gefnogi gofalwyr, sydd wedi cofrestru, am flwyddyn wedi’r brofedigaeth: 01248 370797