Gofalwyr ifanc
Wyt ti dan 18 oed? Wyt ti'n edrych ar ôl rhiant, brawd, chwaer, taid neu nain, perthynas arall neu ffrind? Gall y person rwyt yn gofalu amdano fod ag anabledd corfforol neu anabledd dysgu, salwch corfforol neu feddyliol hirdymor, neu broblem alcohol / cyffuriau.
Yn aml, bydd gofalwyr ifanc yn helpu'r person maent yn gofalu amdano i wneud pethau fel:
- mynd i mewn ac allan o'r gwely ac i fyny a lawr y grisiau
- ymolchi, gwisgo, mynd i'r tŷ bach
- coginio, gwaith tŷ, siopa
- cadw cwmni a chodi eu calon.
Gall hyn olygu dy fod yn teimlo:
- bod dy waith ysgol yn dioddef
- yn flinedig, unig, dryslyd neu ar bigau'r drain
- nad wyt yn cael digon o amser gyda ffrindiau.
Mae help ar gael
Mae siarter gofalwyr ifanc Gwynedd yn dweud beth yw dy hawliau di.
Gallwn dy helpu dod o hyd i:
- rywun fydd yn gwrando arnat ac yn deall
- cyfleon i gymdeithasu a mwynhau
- cymorth
- gwybodaeth
- adfocatiaeth (rhywun i siarad ar dy ran).
Mae adnoddau hefyd ar gael i helpu gofalwyr ifanc -
- Ap Aidi
- Cardiau adnabod
- Cynnigion Byw'n Iach
- Fideo i godi ymwybyddiaeth
Gweld mwy o wybodaeth
Sut i gael help
Cysyllta â’r Tîm Dyletswydd Plant i ofyn am asesiad o dy anghenion. Bydd y tîm yn ystyried pa gymorth y gallant ei roi i ti.
Cysyllta â Gweithredu Dros Blant. Gallant dy gynghori ac maent yn darparu gwasanaethau ar ran Cyngor Gwynedd.
Os wyt yn yr ysgol, gwna'n siŵr fod yr ysgol yn gwybod am dy sefyllfa – gallant dy gefnogi. Siarada â dy athro cofrestru neu aelod arall o staff.
Cadw mewn cysylltiad
Cofia ddilyn tudalen Facebook Gofalwyr Ifanc Gwynedd a Môn