Micro Ofalwyr

Beth ydi micro ofalwyr?

Yn y rhan fwyaf o achosion mae micro ofalwyr yn gynorthwywyr personol hunangyflogedig. Gallwch ddewis defnyddio micro ofalwr i’ch cefnogi i barhau i fyw’n annibynnol. 

Maent yn cynnig cefnogaeth a gwasanaeth amrywiol y gellir ei deilwra i anghenion yr unigolyn.

 

Faint mae’r gwasanaeth yn ei gostio?

Mae’r gyfradd mae micro ofalwyr yn godi yn amrywio. Mae Cyngor Gwynedd yn talu cyfradd o £16 yr awr i gyflogi micro ofalwr (2024-25)

Gallwch ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol i dalu am Micro Ofalwyr – gallwch drafod ymhellach gyda’ch Gweithiwr Cymdeithasol neu drwy gysylltu’n uniongyrchol gyda’r Tim Taliadau Uniongyrchol: TU@gwynedd.llyw.cymru

 

Sut mae gwneud cais am wasanaeth gan ficro ofalwr?

Os oes gennych becyn gofal mewn lle, mae modd cael gwasanaeth gan Micro Ofalwr. Gallwch drafod ymhellach gyda’ch Gweithiwr Cymdeithasol. 

Os nad oes gennych becyn gofal mewn lle, ac yn ei chael yn anodd i fyw’n annibynnol oherwydd oedran, anabledd, neu wrth ofalu am rywun, yna cysylltwch gyda’r Cyngor i drefnu asesiad Gwasanaeth Oedolion

Noder: Os nad ydych yn gymwys am becyn gofal, ond yn awyddus i gael cymorth i barhau i fyw’n annibynnol yna gallwch drefnu’n uniongyrchol gyda’r darparwr micro ofal, bydd rhaid talu’n breifat o dan yr amgylchiadau yma.

 

Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth am micro ofalwyr, cysylltwch â:

 

Ystyried sefydlu gwasanaeth Micro Ofal?

Os ydych yn ystyried sefydlu eich gwasanaeth Micro Ofal eich hun, cysylltwch â ni. 

Mae Catalydd Cymunedol Gwynedd ar gael i gynorthwyo unigolion i sefydlu menter ‘micro ofal’ drwy redeg Cynllun Hyfforddi ‘Ei Wneud yn Iawn’ (Doing it Right). 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Catalydd Cymunedol Gwynedd:

Close