Amser Ni

Cyfaill i blant gydag anghenion ychwanegol
Mae Amser Ni yn mynd a phlant a phobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol ar weithgareddau hwylus gan gynnwys aros dros nos.
Fel gwirfoddolwr bydd disgwyl i chi sicrhau bod pawb yn hapus ac yn cael amser da.
Byddem hefyd yn disgwyl ichi gymryd rhan yn y gweithgareddau a gynlluniwyd.
Bydd y bws yn eich nôl a danfon adref.
Telir am fwyd a gweithgareddau.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch:
amserni@gwynedd.llyw.cymru
07901 103 149