Cam-drin plant

Os ydych yn blentyn sy’n cael eich cam-drin, neu os ydych yn poeni am blentyn sy’n cael ei gam-drin, cysylltwch â ni:

 

Wyt ti'n cael dy gam-drin - adref neu gan rywun arall? Oes rhywun adref yn cael ei gam-drin? Oes gen ti ffrind sy'n cael ei gam-drin ac angen help?

Gall cam-drin ddigwydd mewn sawl ffordd:

  • cam-drin corfforol: taro, ysgwyd, taflu, llosgi neu ddefnyddio meddyginiaeth i wneud drwg i rywun.
  • cam-drin emosiynol: gwneud rhywun i deimlo'n ddiwerth, dweud bod neb yn eu caru; codi ofn - bygwth niwed, bod yn gas; ecsploetio i bwrpas rhyw neu waith.
  • cam-drin rhywiol: gorfodi rhywun i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol gorfodi rhywun i edrych ar a/neu greu deunydd pornograffig. Annog rhywun i ymddwyn mewn ffordd rhywiol anaddas.
  • esgeulustod: peidio darparu bwyd, lletya dillad addas; peidio amddiffyn rhag niwed neu berygl corfforol, peidio sicrhau mynediad at ofal neu driniaeth feddygol; peidio sicrhau fod plentyn yn derbyn addysg reolaidd.

Beth i'w wneud

  • Cysylltu â Gwasanaethau Cymdeithasol a dweud beth sy'n digwydd.
    Ffôn: 01758 704 455
    (Rhif allan o oriau: 01248 353551)
  • E-bost: cyfeiriadauplant@gwynedd.llyw.cymru
  • Mewn argyfwng - fel pan fo rhywun yn cael ei daro neu ei gau allan o'r tŷ - ffonio'r heddlu ar 999
  • Ffonio Childline ar 0800 1111 neu cer i wefan ChildLine
  • Gofyn i oedolyn rwyt yn ymddiried ynddo, fel athro, gweithiwr ieuenctid neu ffrind, ffonio ar dy ran. Mae'n rhaid i bobl sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ddilyn rheolau a phrosesau, ond byddant yn esbonio hyn i ti a dy helpu drwy'r broses.
  • Os wyt yn cael dy fwlio, mynd i wefannau ChildlineKidscape a SortIt.

Os oes rhywbeth yn dy boeni neu dy ddychryn, ac nad wyt yn siŵr a yw'n gam-drin, siarad â rhywun rwyt yn ei drystio.

Mae camdriniaeth yn golygu gwneud niwed i rywun neu beidio sicrhau nad yw rhywun yn cael niwed. Mae camdriniaeth neu esgeulustod yn gallu digwydd o fewn teulu neu sefydliad, gan bobl sy'n eu hadnabod yn dda, neu yn llai aml gan rhywun dieithr. 

Os ydych yn gwybod am blentyn sydd mewn peryg o gael ei gam-drin neu sy’n cael ei gam-drin, mae’n bwysig iawn gadael i'r Cyngor neu’r heddlu wybod.

Os yw'r unigolyn mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu'n syth - 999.

Os nad, cysylltwch â llinell ffôn Gwasanaethau Cymdeithasol gynted a bo modd er mwyn rhannu eich pryder.

Gwasanaethau Cymdeithasol: 01758 704 455

(Rhif allan o oriau: 01248 353551)


Pa wybodaeth fyddai angen ei rannu?

  • Beth yw eich pryder a sut ddaeth yn amlwg?
  • Beth yw enw'r unigolyn sydd yn dioddef, ei ddyddiad geni, cyfeiriad a manylion y teulu? (os ar gael)
  • Pwy sydd wedi achosi pryder i chi ac oes yna dystion eraill?


Beth fydd yn digwydd wedyn?

  • Bydd eich galwad yn cael ei gofnodi a gwybodaeth am yr unigolyn yn cael ei wirio i weld a yw'n adnabyddus.
  • Bydd gwybodaeth yn cael ei chasglu gan asiantaethau eraill sydd â chysylltiad posib gyda'r unigolyn.
  • Ar sail y wybodaeth sydd ar gael bydd penderfyniad yn cael ei wneud i ymchwilio i'ch pryder.
  • Gall hyn arwain at waith cynhwysfawr i amddiffyn yr unigolyn rhag dioddef niwed pellach.

Gwybodaeth ddefnyddiol gan Heddlu Gogledd Cymru am Llinellau Siriol.

Llinellau cyffuriau | Heddlu Gogledd Cymru (northwales.police.uk)

Llinellau Sirol 

Cyngor a chefnogaeth ddefnyddiol i blant, pobl ifanc a rhieni

Ers 2006, mae 'Thinkuknow' wedi bod yn cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel drwy ddarparu addysg ynghylch cam-drin rhywiol a chamfanteisio'n rhywiol. Ei nod yw sicrhau fod gan bawb fynediad i'r wybodaeth ymarferol hon, gan gynnwys plant, pobl ifanc, eu rhieni a'u gofalwyr a'r bobl broffesiynol sy'n gweithio gyda nhw.

Awgrymiadau, cyngor ac adnoddau am e-ddiogelwch i helpu plant a phobl ifanc i gadw'n ddiogel ar-lein.

Helpu rhieni i gadw eu plant yn ddiogel ar-lein

Cadw'ch plentyn yn ddiogel ar-lein

Awgrymiadau a chyngor i gadw'ch plant yn ddiogel ar rwydweithiau cymdeithasol, apiau a gemau. Fel y gall eich plentyn wneud y penderfyniadau iawn gyda'r gefnogaeth iawn ar-lein.

Mae CEOP yno i gadw plant yn ddiogel rhag cam-drin rhywiol a meithrin ar-lein (grooming).

- Ydych chi'n poeni am gam-drin rhywiol ar-lein neu'r ffordd y mae rhywun wedi bod yn cyfathrebu gyda chi ar-lein?

- Ydych chi'n poeni bod eich plentyn yn cael ei feithrin (grooming) ar-lein neu bod rhywun yn camfanteisio'n rhywiol arno/arni?

Dylech ddweud am eich pryderon wrth un o Gynghorwyr Diogelu Plant CEOP.

Dyma'r Strategaeth Lleihau Niwed Alcohol 2020-24 gan y Bwrdd Cynllunio Ardal Gogledd Cymru.

  •  Strategaeth Lleihau Niwed Alcohol 2020-24.

Mae’r Bartneriaeth wedi datblygu Ymgyrch Ymwybyddiaeth Cocên. Mae llawer o bobl yn gweld defnydd hamdden o gocên fel trosedd heb ddioddefwyr. Mae ein hymgyrch yn tynnu sylw at yr effaith ehangach ar gymunedau a theuluoedd o ran camfanteisio, iechyd a lles, a throsedd. 

Mae posteri ar gael i’w lawrlwytho yma:

 

AGRO (Mudiad Adfer Môn a Gwynedd)

Sefydliad gwirfoddol, wedi ei redeg gan bobl mewn adferiad ar gyfer pobl mewn adferiad. Pwrpas AGRO yw hyrwyddo adferiad pobl sydd â phroblemau alcohol a chyffuriau eraill trwy weithgaredd, gan gefnogi teuluoedd, codi ymwybyddiaeth, chwalu stigma a darparu gwybodaeth yn Ynys Môn a Gwynedd.

Cyswllt: www.agro-cymru.org.uk 

 

Be di’r Sgôr?

Mae’r gwasanaeth yma ar gael i bob person ifanc yn y ddwy Sir. Darpariaeth yn cynnig gwybodaeth, cyngor, gwaith wedi ei dargedu a gwaith arbenigol. Gellir hunan gyfeirio i’r gwasanaeth. Gall riant gyfeirio hefyd ond mae’n rhaid i’r unigolyn gytuno i gael ei gyfeirio a gweithio gyda’r Gwasanaeth.

Cyswllt:

 

Caniad

Gwasanaeth Rhanbarthol sydd yn gweithio gyda defnyddwyr gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a iechyd meddwl er mwyn sicrhau i’w llais cael ei clywed a cyfrannu tuag at bolisïau/datblygu gwasanaethau ayyb. 

Cyswllt:

 

CAIS

Ar gael dros y Gogledd, mae’r Wasanaeth yma ar gyfer unigolion ble mae camddefnydd alcohol a/neu gyffuriau yn broblem, neu pryd mae defnydd alcohol neu gyffuriau perthynas agos i chi yn cael effaith arnoch. Mae modd hunan gyfeirio i’r Gwasanaeth yma ar lein ar wefan CAIS neu drwy ffonio. 

Cyswllt:

 

OK Rehab

Mae OK Rehab yn yn arbenigo mewn rehab cyffuriau ac alcohol, a thriniaeth dibyniaeth. Maent yn gweithio mewn partneriaeth gyda dros 140 o sefydliadau ar draws y DU a dramor.

Cyswllt:

 

DAN 24/7

Llinell Gymorth alcohol a cyffuriau cyfrinachol ac am ddim, ni fydd y rhif ffôn yn ymddangos ar fil wedi eitemeiddio eich cartref. Cymorth/sgwrs 24 awr y dydd 365 diwrnod y flwyddyn. Gwybodaeth am wasanaethau/cyffuriau ayyb. ar gael ar y wefan.

Cyswllt:

 

NACOA

Llinell Gymorth cyfrinachol ac am ddim ar gyfer plant o bob oed sydd angen cymorth a sgwrs oherwydd gôr yfed un o’i rhieni/gofalwyr. Ni fydd y rhif ffôn yn ymddangos ar fil wedi eitemeiddio eich cartref.

Cyswllt:

 

North Wales Recovery Communities (Penrhyn House)

Yn cefnogi unigolion i sefydlu Adferiad o gam-drin sylweddau trwy ddarparu tai ar sail ymatal a rhaglenni therapiwtig mynediad agored.

Cyswllt:

Strategaeth Lleihau Niwed Alcohol Gogledd Cymru

Strategaeth Lleihau Niwed Alcohol Gogledd Cymru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

 

Cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau 

Cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2019 i 2022 | LLYW.CYMRU

 

Caniad

Mae’r Bwrdd Cynllunio Ardal, yn croesawu ymgysylltiad defnyddwyr gwasanaeth i, dylanwadu ar wneud penderfyniadau, a chydgynhyrchu i helpu i ddylanwadu, gwneud penderfyniadau a weithredir o fewn y ddwy brif strategaeth. 

Cartref Tudalen enw Caniad

 

Pan fydd aelod o'r teulu yn cael ei garcharu, mae plant yn aml yn profi pwysau sylweddol a straen emosiynol. Gall y sefyllfa hon arwain at deimladau o arwahanrwydd o fewn ysgolion, a mae’r tebygolrwydd o wynebu canlyniadau negyddol yn cynyddu, all hyn gael effaith andwyol ar eu dyfodol. Mae hyn hefyd yn effeithio ar blant a theuluoedd sydd â rhiant neu aelod o'r teulu yn ymwneud â rhan arall o'r system cyfiawnder troseddol, nid yn y carchar yn unig. Nod prosiect FABI yw gwella dealltwriaeth o'r heriau a wynebir gan y teuluoedd hyn, hyrwyddo ymdrechion ataliol, a darparu adnoddau penodol a chefnogol heb stigmateiddio.

 

Teuluoedd yr Effeithir Arnynt gan Garchariad (FABI) yng Ngogledd Cymru

 Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid 

 

Gweithio gyda'n gilydd i ddiogelu pobl:Cod ymarfer diogelu

Cadw’n ddiogel wrth fwynhau gweithgareddau a defnyddio gwasanaethau